Siracusa
Dinas ar ynys Sisili yn yr Eidal yw Siracusa (Sisilieg Sarausa, Groeg Συρακοῦσαι, Lladin Syracusae, Ffrangeg a Saesneg Syracuse). Saif ar arfordir dwyreiniol Sicilia, ac roedd y boblogaeth yn 118,385 yng nghyfrifiad 2011.[1]
![]() | |
Math |
cymuned yn yr Eidal, dinas, dinas fawr ![]() |
---|---|
![]() | |
Poblogaeth |
121,171 ![]() |
Sefydlwyd |
|
Pennaeth llywodraeth |
Francesco Italia ![]() |
Cylchfa amser |
UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Nawddsant |
Lleucu ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol |
Eidaleg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Syracuse and the Rocky Necropolis of Pantalica, Libero consorzio comunale di Siracusa ![]() |
Sir |
Libero consorzio comunale di Siracusa, Sicilia ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
207.78 km² ![]() |
Uwch y môr |
17 ±1 metr ![]() |
Yn ffinio gyda |
Avola, Melilli, Noto, Priolo Gargallo, Solarino, Canicattini Bagni, Floridia, Palazzolo Acreide ![]() |
Cyfesurynnau |
37.0692°N 15.2875°E ![]() |
Cod post |
96100 ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Francesco Italia ![]() |
![]() | |
Sefydlwyd Siracusa yn 734 neu 733 CC gan Roegiaid o ddinasoedd Corinth a Tenea, dan arweiniad yr oecist (gwladychwr) Archias, a'i galwodd yn Sirako, gan gyfeirio at gors gyfagos. Tyfodd y ddinas i fod yn un o'r dinasoedd Groegaidd mwyaf grymus yn unman o gwmpas Môr y Canoldir.
Daeth y ddinas yn gyfoethog iawn mewn cynghrair a Gweriniaeth Rhufain yn ystod teyrnasiad Hiero II o 275 CC ymlaen. Wedi marwolaeth Hiero yn 215 CC, trodd ei olynydd Hieronymus yn erbyn Rhufain, a chipiwyd y ddinas gan y Rhufeiniaid dan Marcus Claudius Marcellus yn 212 CC. Lladdwyd dinesydd enwocaf Siracusa, y gwyddonydd a mathemategydd Archimedes, pan gipiwyd y ddinas.
Siracusa oedd prifddinas yr ynys yn y cyfnod Rhufeinig. Bu dan reolaeth y Fandaliaid am gyfnod, cyn i'r cadfridog Belisarius ei chipio i'r Ymerodraeth Fysantaidd ar 31 Rhagfyr 535). O 663 hyd 668 roedd yr ymerawdwr Constans II yn teyrnasu o Siracusa. Cipiwyd y ddinas gan y Mwslimiaid yn 878, ac yn y cyfnod dilynol daeth Palermo yn brifddinas yr ynys yn lle Siracusa.
Yn 2005 daeth hen ganol y ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ City Population; adalwyd 8 Mai 2018