System Transit Maes Awyr O'Hare, Chicago
Mae System Transit Maes Awyr O'Hare, Chicago (Saesneg: Airport Transit System(ATS)) yn system drafnidiaeth awtomatig ym Maes Awyr O'Hare, Chicago, UDA. Mae’r gorsafoedd i gyd yn gaeëdig gyda drysau ar bob platfform sydd yn agor yn gyfamserol â drysau’r trenau i sicrhau diogelwch teithwyr a rheolaeth tymheredd ar y platfform. Defnyddir trenau 2 neu 3 cerbyd yn ôl angen[1]. Mae pob cerbyd yn dal 57 o deithwyr. Mae gan y rhwydwaith 2 drac, ac mae 5 gorsaf, Terminal 1,2,3,5 a Pharcio Pell.
Enghraifft o'r canlynol | trên gwennol awtomatig |
---|---|
Rhan o | transportation in Chicago |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Hyd | 4.8 cilometr |
Gwefan | https://www.flychicago.com/ohare/ServicesAmenities/services/Pages/ATS.aspx |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Moderneiddio
golyguModerneiddir y system yn ystod 2020 a defnyddir bysiau yn lle’r STA ar hyn o bryd.[2][3] Erbyn 29 Medi, 2020, doedd ATS ddim wedi ail-agor.[4]
Cerbydau
golyguDefnyddir 15 cerbyd awtomatig Matra o Ffrainc gyda teiars rwber. Disodlir y cerbydau Matra gan 36 cerbyd Bombardier fel rhan o’r broses o foderneiddio.
Estyniad
golyguEstynnir y system ymlaen o orsaf Parcio Pell i ganolfan aml-foddol, lle mae’r cwmnïau llogi ceir a’r orsaf Metra.