System rhifolion Rhufeinig

System o ysgrifennu rhifau gan ddefnyddio llythrennau'r wyddor Ladin yw system rhifolion Rhufeinig.

Wyneb cloc ar Neuadd y Ddinas, Caerdydd, Fel sy'n arferol gyda chlociau ar adeiladau cyhoeddus, defnyddir rhifolion Rhufeinig i nodi'r oriau. Sylwch fod y "pedwar" yn cael eu dangos fel IIII ac nid IV: dyma'r ffurf arferol ar wynebau cloc.

Tarddodd y system yn Rhufain hynafol ac a pharhaodd fel y ffordd arferol o ysgrifennu rhifau ledled Ewrop ymhell i'r Oesoedd Canol Diweddar. Parhawyd i ddefnyddio rhifolion Rhufeinig ymhell ar ôl dirywiad yr Ymerodraeth Rufeinig. O'r 14g ymlaen, dechreuwyd eu disodli yn y mwyafrif o gyd-destunau gan rhifolion Arabaidd, sy'n fwy cyfleus. Fodd bynnag, graddol oedd y broses hon, ac mae rhifolion Rhufeinig yn dal i gael eu defnyddio mewn rhai cyd-destunau penodol hyd heddiw.

Cynrychiolir niferoedd yn y system gan gyfuniadau o lythrennau o'r wyddor Ladin. Mae defnydd modern yn cyflogi saith symbol, pob un â gwerth cyfanrif sefydlog:

Symbol I V X L C D M
Gwerth 1 5 10 50 100 500 1,000

Darllenir rhifolion Rhufeinig o'r chwith i'r dde. Os dilynir symbol gan symbol arall sydd â'r un gwerth, neu os yw'n cael ei ddilyn gan symbol â gwerth is, yna mae'n cael ei ychwanegu at y cyfanswm; e.e.

  • III = 1 + 1 + 1 = 3
  • VI = 5 + 1 = 6
  • LXXXII = 50 + 10 + 10 + 1 + 1 = 82
  • CCI = 100 + 100 + 1 = 201
  • MMXV = 1,000 + 1,000 + 10 + 5 = 2015

Fodd bynnag, os dilynir symbol gyda symbol â gwerth uwch, yna caiff ei dynnu o'r cyfanswm; e.e.

  • IV = -1 + 5 = 4
  • IX = -1 + 10 = 9
  • XXIX = 10 + 10 - 1 + 10 = 29
  • XIV = 10 - 1 + 5 = 14
  • CXLVII = 100 - 10 + 50 + 5 + 1 + 1 = 147

Hynny yw, os yw I yn mynd o flaen V neu X, neu os yw X yn mynd o flaen L neu C, neu os yw C yn mynd o flaen D neu M, yna mae'r symbol gwerth is yn cael ei dynnu o'r cyfanswm. Dyma'r unig dynnu "swyddogol" sy'n digwydd. Felly, ni chaniateir tynnu I o L, C, D neu M. (Dylid ysgrifennu 49 fel XLIX ac nid fel IL; dylid ysgrifennu 99 fel XCIX ac nid fel IC; dylid ysgrifennu 1999 fel MCMXCIX ac nid fel MIM.) Fodd bynnag, dros 2,000 o flynyddoedd o ddefnydd, darganfyddir eithriadau i'r system o bryd i'w gilydd.

Y niferoedd o 1 i 99 fel rhifolion Rhufeinig

golygu
1 2 3 4 5 6 7 8 9
I II III IV V VI VII VIII IX
10 11 12 13 14 15 16 17 18 19
X XI XII XIII XIV XV XVI XVII XVIII XIX
20 21 22 23 24 25 26 27 28 29
XX XXI XXII XXIII XXIV XXV XXVI XXVII XXVIII XXIX
30 31 32 33 34 35 36 37 38 39
XXX XXXI XXXII XXXIII XXXIV XXXV XXXVI XXXVII XXXVIII XXXIX
40 41 42 43 44 45 46 47 48 49
XL XLI XLII XLIII XLIV XLV XLVI XLVII XLVIII XLIX
50 51 52 53 54 55 56 57 58 59
L LI LII LIII LIV LV LVI LVII LVIII LIX
60 61 62 63 64 65 66 67 68 69
LX LXI LXII LXIII LXIV LXV LXVI LXVII LXVIII LXIX
70 71 72 73 74 75 76 77 78 79
LXX LXXI LXXII LXXIII LXXIV LXXV LXXVI LXXVII LXXVIII LXXIX
80 81 82 83 84 85 86 87 88 89
LXXX LXXXI LXXXII LXXXIII LXXXIV LXXXV LXXXVI LXXXVII LXXVIII LXXIX
90 91 92 93 94 95 96 97 98 99
XC XCI XCII XCIII XCIV XCV XCVI XCVII XCVIII XCIX