Syth
Rhaglen gerddoriaeth i bobl ifanc oedd Syth a ddarlledwyd o 1991 hyd at 1995. Roedd teitl y rhaglen yn newid bob blwyddyn - Syth '91, Syth '92 ac ati. Fe'i ddarlledwyd yn ystod Slot 23 - brand rhaglenni plant ar S4C yn y cyfnod. Fe gellir ei weld fel brawd bach Fideo 9.
Syth | |
---|---|
Genre | Cerddoriaeth |
Cyflwynwyd gan | Kevin Davies |
Gwlad/gwladwriaeth | Cymru |
Iaith/ieithoedd | Cymraeg |
Nifer cyfresi | 4 |
Cynhyrchiad | |
Amser rhedeg | 15 munud |
Cwmnïau cynhyrchu |
Criw Byw |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | S4C |
Fformat llun | 576i (4:3 SDTV) |
Rhediad cyntaf yn | 1991–1995 |
Cyflwynydd y gyfres oedd Kevin Davies a roedd y rhaglenni yn cynnwys fideos, newyddion, siart Cytgord a chystadlaethau. Er mwyn apelio at gynulleidfa ifanc roedd y gyfres yn nodedig am ddelwedd trawiadol gyda graffeg cyfrifiadurol yn cael ei ddefnyddio i gysylltu elfennau'r rhaglen.