Tôn gron
Cyfansoddiad cerddorol lle gall sawl llais ganu yr un dôn ond gan ddechrau ar wahanol adegau a chytgordio a'i gilydd yw tôn gron neu diwn gron (hefyd canon d[d]iderfyn neu gylchganon). Mae'n un o'r ffurfiau rhwyddaf o ran-ganu, gan mai yr un alaw sy'n cael ei dysgu gan bob llais. Daw'r enghreifftiau cynharaf o donau o'r fath yn dyddio yn ôl i'r 12g.
Enghraifft o'r canlynol | ffurf cân |
---|---|
Math | canon |
Enw brodorol | canon perpetuus |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae enghreifftiau Cymraeg o'r dôn gron yn cynnwys 'Daw hyfryd fis', 'Dacw ti yn eistedd y deryn du', 'Ble mae Daniel?' a'r emyn 'Abba Dad, fe'th addolwn'.
Mae'r gân Ffrangeg "Frère Jacques" hefyd yn enghraifft o dôn gron.
Mae'r ymadrodd 'fel tôn gron' neu 'fel tiwn gron' hefyd yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio rhywun sy'n siarad am rhywbeth yn ddi-baid neu hyd at syrffed.