Creadigaeth hanesyddol ac achyddol yw Tŷ Moray, a ddefnyddir ar gyfer esbonio golyniad llywodraethwr a oedd â'u pencadlys yn ardal Moray, ac oedd weithiau'n rheoli teyrnas fwy nac ond yr ardal hon. Mae'r greadigaeth yn debyg i Cenél Loairn, syniad Celtaidd yn wreiddiol, sy'n disgrifio dau glan arweiniol a oedd yn cydymgeisio yn yr Alban canoloesol cynnar.

Roedd y Tŷ a elwyd yn Loairn neu Moray, yn perthyn o bell i'w gydymgeisydd, y Tŷ Alpin Albanaidd, ac yn honi disgyniad o'r sefydlwr hunan-deitledig, Loarn mac Eirc. Daeth rhai o aelodau'r teulu yn frenhinoedd olaf y Pictiaid, tra tair canrif yn ddiweddarach, golynodd dau aelod i'r Orsedd Albanaidd, a llywodraethu'r Alban rhwng 1040 a 1058.

Pan oedd cydymgeisydd ar yr orsedd Albanaidd, roedd arweinwyr Loairn fel arfer yn gweithredu fel teyrnas annibynnol Moray, ac fe lywodraethodd olyniaeth o frenhinoedd neu mormaer.

Roedd olyniaeth Loairn yn dilyn rheolau tanistry yn weddol dyn, gan achosi i amryw o ganghenion o deulu pell yr arweinwyr i gymryd eu tro yn dal yr arweiniaeth; mae'n bosib roedd hyn yn cadw cydbwysedd rhwng canghennau pwysig y teulu. Er enghraifft, roedd MacBeth yn ddisgynnydd o un gangen a'i lysfab Lulach, o gangen arall.

Nid oes fawr o dystiolaeth, na thystiolaeth dibynadwy, yn goroesi i ddangos os oedd Tŷ Loairn yn dilyn y traddodiad Pictaidd mewn unrhyw ffordd, sef olyniaeth o linach y fam. Yn hytrach, mae'r olyniant i'w weld yn dilyn traddodiad Celtiadd-Gwyddelig o glan gwrywol o berthynas cyffredin.

Tŷ Moray
Rhagflaenydd:
Tŷ Dunkeld
Tŷ Llywodraethu Teyrnas yr Alban
10401058
Olynydd:
Tŷ Dunkeld
Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Alban. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato