Peiriant amser a llong ofod ffuglennol sy'n ymddangos yn y gyfres deledu Doctor Who yw'r TARDIS (/ˈtɑːrdɪs/; "Time And Relative Dimension In Space"). Mae'r Doctor yn ei ddefnyddio fel cerbyd i deithio trwy amser a'r gofod, ond mae TARDISau eraill wedi ymddangos yn y rhaglenni dros y blynyddoedd. Mae TARDISau fel arfer yn gallu addasu i'w hamgylchedd, ond mae'r cylched cameleon yng ngherbyd y Doctor wedi torri, sy'n golygu ei fod bob amser ar ffurf blwch heddlu. Nodwedd arall o'r TARDIS yw ei fod yn fwy ar y tu fewn ag ydyw ar y tu allan, ac yn cynnwys ystafelloedd, coridorau a gofodau storio oddi mewn iddo.

TARDIS y Doctor fel ag yr oedd rhwng 2005 a 2010