Math o sgrin (neu 'ddangosydd') grisial-hylif yw TFT LCD (thin-film-transistor liquid-crystal display) a ddefnyddir mewn gliniaduron, y set deledu, dyfeisiadau llaw fel y cyfrifiannell, monitorau cyfrifiaduron, ffonau symudol, taflunyddion, satnafs ayb.[1]

ASUS Eee PC, gliniadur a oedd yn cynnwys y sgrin TFT LCD

Dechreuwyd gwerthu TFTs yn fasnachol yn 1986. Olynodd yr LCD a ddaeth allan yn 1971[2][3] a rhagflaenodd yr OLED Organic light-emitting diode display a lansiwyd yn 2003.[4]

Gwneuthuriad golygu

Gosodir yr elfennau (neu gelloedd y sgrin) mewn colofnau a rhesi. Gan y gellir gyrru foltedd yn uniongyrchol i bob cell nid yw'r trydan yn amharu a chelloedd eraill. Cysylltir pob colofn a phob rhes i switsis ar ffurf transistor: un ar gyfer pob cell. Gan mai un ffordd yn unig y gall y cerrynt lifo drwy'r transistor, nid yw'r gwefr a roddir i bob picsel, felly, yn cael ei wagio'n llwyr. Mae pob picsel yn gynhwysydd (capacitor) gyda haen o hylif ynysol rhwng yr haenau.

 
Diagram sy'n dangos sut y gellir pweru pob elfen unigol o'r sgrin.

Yn wahanol i'r lled-ddargludydd a wneir o silicon grisialaidd, defnyddir haen denau o silicon amorffaidd ar haen o wydr sy'n haws i'w gynhyrchu, ac felly'n rhatach.

Gwneuthurwyr golygu

Ychydig iawn o wneuthurwyr dangosyddion TFT LCD sydd, oherwydd y gost anferthol o godi ffatri pwrpasol. Yn y rhestr ganlynol, nodir y math o ddangosydd mewn cromfachau. Ym mhlith y gwneuthurwyr mae:

  • Panasonic (IPS-Pro)
  • LG Display (H-IPS & P-IPS)
  • Hannstar a Chunghwa Picture Tubes, Ltd. (S-IPS)
  • AU Optronics (A-MVA)
  • Chi Mei Optoelectronics (S-MVA)
  • Samsung/Sony (S-PVA)
  • Samsung (AFFS)
  • Sharp Corporation (ASV ac MVA)

Cyfeiriadau golygu

  1. "LCD Panel Technology Explained". Pchardwarehelp.com. Cyrchwyd 2013-07-21.
  2. Voltage-Dependent Optical Activity of a Twisted Nematic Liquid Crystal (TN-LCD); M. Schadt and W. Helfrich. Phys. Rev. Lett. 27, 561 (1971)
  3. Joseph Castellano, "Modifying Light', American Scientist, Medi-Hydref 2006
  4. WP-de Organische Leuchtdiode[dolen marw] 2011-05-17