Cerbyd ar log sydd ar gael i gludo teithwyr, yn unigolyn neu grwp bychan, yw tacsi. Yn wahanol i ffurfiau eraill o gludiant cyhoeddus, dydi tacsi ddim yn gyfyngedig i un llwybr a gall y teithiwr ofyn i'r gyrrwr stopio unrhyw le.

Tacsi Hackney traddodiadol yn Llundain

Gyda sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru mae deddfu trwyddedu tacis (ond nid ei weithredu, sydd yn nwylo'r awdurdodau lleol) yn fater datganoliedig, fel y mae yn yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd.

Mae mathau eraill o dacsis yn cynnwys y cab mini, limousine a tacsis rhannu (mewn rhai gwledydd, yn enwedig yn y Trydydd Byd) sy'n rhedeg ar lwybrau penodedig, e.e. rhwng trefi.

Eginyn erthygl sydd uchod am gludiant. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.