Taith awyren 1549 US Airways

Taith awyren ddomestig o Efrog Newydd i Charlotte, North Carolina, ar 15 Ionawr 2009 oedd taith 1549 US Airways (AWE1549). Glaniodd y peilot ei awyren heb bŵer mewn argyfwng yn Afon Hudson ar ôl i'r ddau beiriant jet fethu. Achos yr argyfwng oedd i'r awyren daro haid o adar. Cafodd pob un o'r 155 person (teithwyr a staff) eu symud allan o'r awyren yn llwyddiannus a'u hachub gan gychod, cyn i'r awyren suddo yn yr afon. Er y cafwyd nifer o anafiadau, rhai ohonynt yn ddifrifol, dim ond un person a gadwyd mewn ysbyty dros nos. Daeth y digwyddiad yn enwog fel "gwyrth ar afon Hudson", a chydnabyddwyd y peilot, Captain Sullenberger, yn arwr yn ôl rhai adroddiadau.[1][2]

Awyren taith 1549 US Airways yn arnofio ar Afon Hudson, Efrog Newydd ar 15 Ionawr 2009.

Roedd yr Airbus A320-200, ar ei daith o Faes Awyr LaGuardia yn Efrog Newydd i Faes Awyr Rhyngwladol Charlotte Douglas yn Charlotte, North Carolina. Wedi tri munud o hedfan, am 3:27 y.h. EST, tarodd yr awyren haid o wyddau Canadaidd wrth ddringo o LaGuardia, ychydig i'r gogledd-ddwyrain o Bont George Washington.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Live Flight Track Log (AWE1549) 15-Jan-2009 KLGA-KLGA". Flightaware. 15 Ionawr 2009. Cyrchwyd 9 Chwefror 2009.
  2. "US Airways Flight 1549 Initial Report" (Press release). US Airways. 15 Ionawr 2009. http://phx.corporate-ir.net/phoenix.zhtml?c=196799&p=irol-newsArticle&ID=1245239. Adalwyd 9 Chwefror 2009.