Tanau coedwig yn Limassol 2021
Mae Tanau Limassol 2021 yn gyfres o danau gwyllt a gynheuwyd yn Arakapas, Cyprus, ddydd Sadwrn 3 Gorffennaf 2021. Fe'u disgrifiwyd fel y tanau gwaethaf yn hanes y wlad.
Enghraifft o'r canlynol | tân gwyllt |
---|---|
Dyddiad | 3 Gorffennaf 2021 |
Gwladwriaeth | Cyprus |
Rhanbarth | Limassol District |
Cynheuwyd y tân ger pentref Cyprus Arakapas ar 3 Gorffennaf 2021, yng nghanol gwres llethol, wythnos o hyd a welodd y tymheredd yn uwch na 40° C (104 ° F).[1] Ymledodd y tanau ledled Ardal Limassol cyn eu diffodd ddeuddydd yn ddiweddarach gyda chymorth gweithwyr argyfwng Gwlad Groeg, Israel, yr Eidal a'r Deyrnas Unedig. Fe'u disgrifiwyd fel y tanau gwaethaf yn hanes y wlad[2]. Bu farw pedwar dyn o’r Aifft yn y tanau, ac arestiwyd ffermwr 67 oed yn ddiweddarach mewn perthynas â chychwyn y tân cychwynnol[3].
Cyfeiriadau
golygu- ↑ https://edition.cnn.com/2021/07/04/europe/cyprus-wildfire-intl/index.html
- ↑ https://www.bbc.com/news/world-europe-57710048
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-08-25. Cyrchwyd 2021-09-01.