Taran yw'r sŵn sy'n cael ei achosi gan fellten. Yn dibynnu ar bellter a natur y fellten, gall amrywio o swn cracio sydyn i ddwndwr hir ac isel. Mae'r cynnydd sydyn mewn pwysedd a thymheredd o ganlyniad i'r fellten yn achosi i'r aer o'i amgylch ac o'i mewn i ehangu yn gyflym. Mae'r ehangiad hwn yn creu siocdon sonig, tebyg i daran sonig, sydd weithiau yn cael ei galw yn 'glep' neu'n 'rhuad'.

Taran yw'r swn sy'n cael ei greu gan fellten.
Clep taran

Mae fflachiad mellten, wedi'i ddilyn ar ôl peth amser gan ddwndwr taran, yn dangos bod sŵn yn teithio'n arafach o lawer na golau. Gan ddefnyddio'r pellter hwn, mae'n bosib amcangyfrif pellter y fellten trwy amseru'r bwlch rhwng gweld y fellten a chlywed y daran. Cyflymder sŵn mewn aer sych yw tua 343 medr yr eiliad neu 768 milltir yr awr (1,236 cilomedr yr awr) ar dymheredd o 20 °C (68 °F).[1] Mae tua 5 eiliad i bob milltir (neu 3 eiliad i bob cilomedr).[2] Oherwydd byrder y pellter rhwng y fellten a'r sawl sy'n ei gweld, gellir ystyried cyflymder golau yn y nesaf peth i ddim. Gellir amcancyfrif felly bod y fellten filltir i ffwrdd am bob 5 eiliad cyn y bydd swn y daran i'w glywed. Anaml y clywir taran o bellter sy'n fwy na 12 milltir (20 cilomedr).

Cyfeiriadau golygu

  1. Handbook of Chemistry and Physics, 72nd edition, special student edition. Boca Raton: The Chemical Rubber Co. 1991. t. 14.36. ISBN 0-8493-0486-5.
  2. Tulga, Phil (n/a). "Thunderstorm Stopwatch". Music Through the Curriculum. Cyrchwyd 2018-05-28. Check date values in: |date= (help)