Mae tarantwlaod yn grwp o arachnidau blewog sy'n perthyn i deulu pryfaid cop Theraphosidae, sy'n cynnwys tua 900 o rywogaethau hyd yma. Mae rhai rhywogaethau wedi dod yn boblogaidd yn y fasnach anifeiliaid anwes  ecsotig. Mae gan rai rhywogaethau Byd Newydd sy'n cael eu cadw fel anifeiliaid anwes flew sy'n pigo sy'n gallu achosi llid ar y croen ac, mewn achosion eithafol, achosi difrod i'r llygaid. Mae gan y taratula frathiad gwenwynig sy'n tynnu ei ysglyfaeth i lawr llai ac yna'i hun.

Tarantwla
Enghraifft o'r canlynoltacson Edit this on Wikidata
Safle tacsonteulu Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonTheraphosoidea Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae meintiau tarantwlaod yn amrywio o rai sydd mor fach ag ewin bys i rai mor fawr a phlat bwyd pan mae eu coesau wedi'u hymestyn. Gan ddibynnu ar y rhywogaeth, mae hyd corff taratwlaod yn ymestyn o 2.5 i 10 cm (1 - 4 modfedd), gyda lled coesau o 8-30cm (3-12 modfedd). Mae lled y coesau yn cael ei benderfynu trwy fesur o ben y goes ôl i flaen y goes flaen ar yr ochr arall. Gall rhai o'r rhywogaethau mwyaf o taratwla bwyso dros 85 gram (3 owns), ac mae adroddiadau bod y mwyaf o'r cyfan, y Theraphosa blondi o Feneswela a Brasil, yn gallu cyrraedd pwysau o 170 gram (12 modfedd) a lled coesau o 30 cm (12 modfedd).  

Y pryf copyn cyntaf i gael yr enw "tarantwla" oedd Lycosa tarantula, rhywogaeth o fleiddgopyn oedd yn dod yn wreiddiol o Ewrop Ganoldirol.[1] Mae'r enw yn deillio o "Taranto", tref yn ne yr Eidal. Defnyddiwyd y term "tarantwla" wedi hynny i bron unrhyw rywogaeth o bryf copyn oedd yn fawr ac anghyfarwydd, yn enwedig y Mygalomorphae ac yn arbennig Theraphosidae y Byd Newydd.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Jean-Henri Fabre, cyf. Alexander Teixeira de Mattos, The Life of the Spider (Mead, Efrog Newydd, 1916)