Tarian Rhyddid a Dymchwelydd Gormes (cylchgrawn)
cyfnodolyn
Cylchgrawn Cymraeg radical gwrth-eglwysig a gylchredwyd ymysg y Cynulleidfawyr oedd Tarian Rhyddid a Dymchwelydd Gormes.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/4c/Tarian_rhyddid_a_dymchwelydd_gormes_%28Welsh_Journal%29.jpg/220px-Tarian_rhyddid_a_dymchwelydd_gormes_%28Welsh_Journal%29.jpg)
Ymddangosodd yn fisol, gydag 8 rhifyn yn cael eu cyhoeddi rhwng Ionawr ac Awst 1839.
Prif gynnwys y cylchgrawn oedd erthyglau yn ymosod ar yr Eglwys Wladol, yn enwedig yn erbyn talu'r degwm i'r eglwys.
Golygwyd y cylchgrawn gan y gweinidog, awdur ac arweinydd gwleidyddol William Rees (Gwilym Hiraethog, 1802-1883)[1] a'r gweinidog ac ysgolfeistr Hugh Pugh (1803-1868).[2][3]