Tarsus
Dinas yn rhanbarth Mersin yn Nhwrci yw Tarsus (Groeg: Ταρσός), rhyw 40 km o ddinas Adana. Mae'n fwyaf enwog fel dinas enedigol yr Apostol Paul.
Math | dinas, district of Turkey, dinas fawr, bwrdeistref |
---|---|
Poblogaeth | 339,676, 346,715, 342,373, 329,494, 238,276 |
Cylchfa amser | UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | Langen |
Daearyddiaeth | |
Sir | Talaith Mersin, Cilicia |
Gwlad | Twrci |
Arwynebedd | 2,240 km² |
Uwch y môr | 23 metr |
Gerllaw | Afon Berdan, Y Môr Canoldir |
Cyfesurynnau | 36.92°N 34.9°E |
Saif ar yr arfordir lle mae Afon Tarsus (Cydnus) yn llifo i'r Môr Canoldir. Yng nghyfnod yr Ymerodraeth Seleucaidd, roedd yn dref Roegaidd ac yn enwog am ei hysgolion, oedd yn cystadlu a rhai Athen ac Alexandria. Dan y Rhufeiniaid, daeth yn brifddinas talaith Cilicia (Caput Ciliciae). Gwnaed y trigolion yn ddinasyddion Rhufeinig yn 66 CC.
Heblaw Sant Paul, roedd yn ymerawdwr Rhufeinig Marcus Annius Florianus yn frodor o'r ddinas, a Tarsus oedd lleoliad rhan o'r garwriaeth rhwng Marcus Antonius a Cleopatra. Yma hefyd y claddwyd yr ymerawdwr Julian.