Taylor Lautner

actor a aned yn 1992

Actor ffilm a llais a model Americanaidd ydy Taylor Daniel Lautner (ganed 11 Chwefror 1992). Mae ef hefyd yn grefft ymladdwr. Pan yn blentyn, dechreuodd Lautner grefft ymladd ac fe'i gategoreiddiwyd fel rhif un yn ei gategori gan Gymdeithas Chwaraeon Karate America. Yn fuan wedi hyn, dechreuodd ei yrfa actio, gan ymddangos mewn cyfresi comedi fel The Bernie Mac Show (2003) a My Wife and Kids (2004). Yn ddiweddarach cafodd rannau lleisiol mewn cyfresi teledu fel What's New, Scooby-Doo? (2005) a Danny Phantom (2005). Yn 2005, ymddangosodd yn y ffilm, Cheaper by the Dozen 2, a serennodd yn The Adventures of Sharkboy and Lavagirl in 3-D.

Taylor Lautner
GanwydTaylor Daniel Lautner Edit this on Wikidata
11 Chwefror 1992 Edit this on Wikidata
Grand Rapids Edit this on Wikidata
Man preswylAgoura Hills, Chatsworth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Valencia High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, actor llais, actor ffilm, actor teledu, model, podcastiwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Twilight Saga, Scream Queens, Abduction, Valentine's Day, The Adventures of Sharkboy and Lavagirl, Tracers Edit this on Wikidata
Taldra174 centimetr Edit this on Wikidata
MamDeborah C. Bos Edit this on Wikidata
PriodTay Lautner Edit this on Wikidata
PartnerTay Lautner, Taylor Swift, Marie Avgeropoulos, Lily Collins, Billie Lourd Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata

Mae wedi ymddangos mewn dau gyfres o'r gomedi sefyllfa Cuckoo ar BBC Three.

Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.