Clefyd heintus a achosir gan facteria Salmonella enterica typhi yw teiffoid. Gall y symptomau amrywio o ran difrifoldeb, ac yn debygol o gychwyn ryw chwech i 30 diwrnod wedi cysylltiad â'r bacteria. Yn aml mae twymyn sy'n cynyddu'n raddol dros sawl diwrnod. Caiff hyn ei ddilyn yn aml gan wendid, poen yn yr abdomen, rhwymedd, cur pen, a chwydu ysgafn. Bydd rhai pobl yn datblygu brech ar y croen gyda smotio lliw coch. Mewn achosion difrifol, gall bobl profi dryswch. Heb driniaeth, gall symptomau barhau hyd wythnosau neu fisoedd. Gall rhai pobl gario'r bacteriwm heb gael eu heffeithio, ond maen nhw'n dal i allu lledaenu'r afiechyd i eraill. Mae teiffoid yn fath o dwymyn enterig. Hyd yn hyn, dim ond mewn bodau dynol y gwyddys bod Salmonella enterica typhi yn heintio ac yn dyblygu.

Teiffoid
Enghraifft o'r canlynolclefyd heintus, dosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathclefyd heintus bacterol cychwynnol, anthroponotic disease, clefyd, pandemic and epidemic-prone diseases Edit this on Wikidata
Lladdwyd161,000 Edit this on Wikidata
Arbenigedd meddygolAfiechydon heintiol edit this on wikidata
SymptomauSplenomegaly, llethdod, dolur rhydd, leukopenia edit this on wikidata
AchosSalmonella enterica edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia