Telynegion Maes a Môr
llyfr (gwaith)
Cyfrol o gerddi gan Eifion Wyn (1867–1926) yw Telynegion Maes a Môr, a gyhoeddwyd gan yr Educational Publishing Co., Caerdydd, yn 1908. Dyma lyfr enwocaf y bardd, a wnaeth enw iddo fel telynegwr ac a ddaeth yn un o lyfrau mwyaf poblogaidd ei ddydd gyda llawer o'r cerddi yn ddarnau adrodd cyfarwydd ledled y wlad.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol, gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Iaith | Cymraeg |
Mae'r gyfrol yn ymrannu'n saith adran o gerddi:
- Telynegion Bywyd
- Telynegion Men
- Telynegion Serch
- Telynegion y Misoedd
- Telynegion y Maes
- Telynegion y Môr
- Telynegion Cymru
- Dyma un o gerddi yn yr adran "Telynegion y Misoedd"
- Gwn ei ddyfod, fis y mêl,
- Gyda'i firi yn yr helyg,
- Gyda'i flodau fel y barrug -
- Gwyn fy myd bob tro y dêl.
- Eis yn fore tua'r waen,
- Er mwyn gweld y gwlith ar wasgar,
- Ond yr oedd y gwersyll cynnar
- Wedi codi o fy mlaen.
- Eistedd wnes tan brennau'r Glôg,
- Ar ddyfodiad y deheuwynt;
- Edn glâs ddisgynnodd arnynt
- Gan barablu enw'r gôg.
- Ni rois gam ar lawr y wig
- Heb fod clychau'r haf o tano,
- Fel diferion o ryw lasfro
- Wedi disgyn rhwng y brig.
- Gwn ei ddyfod, fis y mêl,
- Gyda'i firi, gyda'i flodau,
- Gyda dydd fy ngeni innau -
- Gwyn fy myd bob tro y dêl.
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |