Dinas yng nghymuned ymreolaethol Aragón yn Sbaen yw Teruel. Teruel yw prifddinas y dalaith o'r un enw, a gyda poblogaeth o 34,240 yn 2006, hi yw'r briffddinas talaith leiaf ei phoblogaeth yn Sbaen. Saif lle mae Afon Guadalaviar ac Afon Alfambra yn cyfarfod, 915 medr uwch lefel y môr.

Teruel
Mathbwrdeistref Sbaen Edit this on Wikidata
PrifddinasTeruel City Edit this on Wikidata
Poblogaeth36,267 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethEmma Buj Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iLubliniec, Kamianets-Podilskyi Edit this on Wikidata
NawddsantFernando III, brenin Castilia Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolAragón Edit this on Wikidata
SirTalaith Teruel, Teruel Community Edit this on Wikidata
GwladBaner Sbaen Sbaen
Arwynebedd440.414455 ±1e-06 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr915 ±1 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaAlbarracín, Alfambra, Villastar, Rubiales, Cella, Celadas, Peralejos, Cuevas Labradas, Corbalán, La Puebla de Valverde, Cubla Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau40.343611°N 1.107222°W Edit this on Wikidata
Cod post44001–44003 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
maer Teruel Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethEmma Buj Edit this on Wikidata
Map

Ar ddechrau Rhyfel Cartref Sbaen, cipiwyd Teruel gan gefnogwyr Franco. Llwyddodd milwyr y weriniaeth i adfeddiannu'r ddinas, yr unig ddinas iddynt ei chipio yn ystod y rhyfel, ond ar 22 Chwefror 1938 cipiodd milwyr Franco y ddinas eto.

Nodwedd fwyaf arbennig Teruel yw ei phensaerniaeth mudéjar, a enwyd fel Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO. Mae Eglwys Gadeiriol Santa María de Teruel hefyd yn nodedig.

Tŵr mudéjar San Martín