The Broken Circle Breakdown

ffilm ddrama Saesneg, Iseldireg a Fflemeg o Wlad Belg a'r Iseldiroedd gan y cyfarwyddwr ffilm Felix Van Groeningen

Ffilm ddrama Belgaidd yw The Broken Circle Breakdown (hefyd Alabama Monroe) a gyfarwyddwyd gan Felix Van Groeningen. Mae’n seiliedig ar ddrama a ysgrifennwyd gan Johan Heldenbergh a Mieke Dobbels, a chafodd ei haddasu ar gyfer y sgrin gan Carl Joos a Felix Van Groeningen.

The Broken Circle Breakdown
Cyfarwyddwr Felix Van Groeningen
Cynhyrchydd Dirk Impens
Frans van Gestel
Laurette Schillings
Arnold Heslenfeld
Serennu Johan Heldenbergh
Veerle Baetens
Cerddoriaeth Bjorn Eriksson
Sinematograffeg Ruben Impens
Golygydd Nico Leunen
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Menuet
Topkapi Films
Dyddiad rhyddhau
11 Hydref 2012
Amser rhedeg 111 munud
Gwlad Baner Gwlad Belg Gwlad Belg
Iaith Iseldireg

Crynodeb golygu

Mae’r ffilm wedi’i lleoli yn Gent, yn Rhanbarth Fflandrys Gwlad Belg, ac mae’n dilyn bywydau Didier (Johan Heldenbergh) ac Elise (Veerle Baetens) dros saith mlynedd wrth iddynt syrthio mewn cariad trwy eu brwdfrydedd dros gerddoriaeth canu’r Tir Glas. Mae ganddynt ferch, Maybelle, sy’n datblygu canser ar ôl ei phen-blwydd yn chwech oed, ac mae’n marw o fewn blwyddyn. Mae marwolaeth Maybelle yn cael effaith ddinistriol ar eu perthynas a’u bywydau.

Trac Sain golygu

  1. "Will the Circle be Unbroken?"
  2. "The Boy Who Wouldn't Hoe Corn"
  3. "Dusty Mixed Feelings"
  4. "Wayfaring Stranger"
  5. "Rueben's Train"
  6. "Country In My Genes"
  7. "Further On Up The Road"
  8. "Where Are You Heading, Tumbleweed?"
  9. "Over In The Gloryland"
  10. "Cowboy Man"
  11. "If I Needed You"
  12. "Carved Tree Inn"
  13. "Sandmountain"
  14. "Sister Rosetta Goes Before Us"
  15. "Blackberry Blossom"