The Dead South
Band gwerin - canu'r tir glas o Ganada yw The Dead South wedi'i leoli yn Regina, Saskatchewan. Ffurfiwyd y band i ddechrau yn 2012 fel pedwarawd gan Nate Hilts (llais, gitâr, mandolin), Scott Pringle (gitâr, mandolin, llais), Danny Kenyon (soddgrwth, llais) a Colton Crawford (banjo). Gadawodd Crawford y band yn 2015 a daeth y gerddor stiwdio Eliza Mary Doyle yn ei le am sawl blwyddyn. Ail-ymunodd Colton â'r band gan ddechrau gyda thaith Voices In Your Head ganol 2018.[1]
The Dead South | |
---|---|
Arddull | Canu'r Tir Glas, Canu gwerin |
Gwefan | https://www.thedeadsouth.com/ |
Chwaraeodd y band leoliadau byw cyn rhyddhau eu EP pum cân gyntaf yn 2013, The Ocean Went Mad and We Were to Blame. Rhyddhawyd eu halbwm Good Company yn 2014 gan label Almaeneg Devil Duck Records, ac arweiniodd at deithiau tramor sylweddol am y ddwy flynedd nesaf. Cafodd sengl Good Company "In Hell, I’ll Be in Good Company", a gynhyrchwyd gan Orion Paradis yn stiwdio SoulSound, ei chreu ynghyd â fideo ar YouTube, a chredir ei bod yn cyfrannu at ddatganiad arloesol i'r band.
Rhyddhawyd trydydd LP y band, Illusion and Doubt, yn 2016. Dringodd yn gyflym i rif 5 yn siartiau canu'r tir glas Billboard.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "About". The Dead South.com. Deadsouth.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Medi 2017. Cyrchwyd 27 Rhagfyr 2017.