The Great Escape (ffilm)
Ffilm Americanaidd am griw o garcharorion rhyfel yn dianc o wersyll carcharorion rhyfel Almaenig yn ystod yr Ail Ryfel Byd ydy The Great Escape (1963). Mae'n serennu Steve McQueen, James Garner a Richard Attenborough.
Cyfarwyddwr | John Sturges |
---|---|
Cynhyrchydd | John Sturges |
Ysgrifennwr | James Clavell W. R. Burnett |
Serennu | Steve McQueen James Garner Richard Attenborough James Donald Charles Bronson Donald Pleasence James Coburn Angus Lennie David McCallum |
Cerddoriaeth | Elmer Bernstein |
Sinematograffeg | Daniel L. Frapp |
Golygydd | Ferris Webster |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | The Mirisch Company |
Dosbarthydd | United Artists |
Dyddiad rhyddhau | 4 Gorffennaf 1963 |
Amser rhedeg | 172 munud |
Gwlad | Yr Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Cyllideb | £4 miliwn |
Refeniw gros | $5.5 miliwn |
Seiliwyd y ffilm ar y llyfr o'r un enw gan Paul Brickhill. Hanes dihangfa gwirioneddol o wersyll Stalag Luft III yn Żagań, a oedd bryd hynny yn rhan o'r Almaen ydyw. Mae'r cymeriadau'n seiliedig ar bobl go iawn. Gwnaed y ffilm gan Mirisch Company, ei rhyddhau gan United Artists, a'i chynhyrchu a'i chyfarwyddo gan John Sturges.