The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
- Gweler hefyd: The Hitchhiker's Guide to the Galaxy (gwahaniaethu)
Cyfres ffuglen wyddonol gan Douglas Adams yw The Hitchhiker's Guide to the Galaxy. Comedi radio oedd yn wreiddiol a ddarlledwyd ar BBC Radio 4 ym 1978, addaswyd yn ddiweddarach i amryw o fformatau eraill, gan ddod yn llwyddiannus ar draws nifer o gyfryngau yn rhyngwladol. Addaswyd i sioeau llwyfan a cyhoeddwyd pum llyfr rhwng 1979 ac 1992 (The Hitchhiker's Guide to the Galaxy oedd y cyntaf), cyfres deledu yn 1981, gêm gyfrifiadur yn 1984, cyhoeddodd DC Comics gyfres tair-rhan llyfrau comig o'r tri llyfr cyntaf rhwng 1993 ac 1996.