The Mystery of the Burnt Cottage

nofel i blant ifanc gan Enid Blyton

The Mystery of the Burnt Cottage yw'r cyntaf yn y gyfres o nofelau plant y Five Find-Outers gan Enid Blyton. Fe'i cyhoeddwyd gyntaf ym 1943 ac mae'n parhau i gael ei ailgyhoeddi'n aml.[1]

The Mystery of the Burnt Cottage
Clawr yr argraffiad 1af
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurEnid Blyton
GwladDeyrnas Unedig
IaithSaesneg
ISBN978-1-4052-0393-7
DarlunyddJoseph Abbey
GenreLlyfrau plant, Nofel
CyfresFive Find-outers
Olynwyd ganThe Mystery of the Disappearing Cat Edit this on Wikidata

Plot golygu

Mae'r nofel yn canolbwyntio ar y dirgelwch o bwy allai fod yn gyfrifol am roi bwthyn Mr Hick ar dân. Mae'r pum plentyn, Larry a Daisy Daykin, Pip a Bets Hilton, a'r newydd-ddyfodiad Frederick Algernon Trotteville (sy'n cael y llysenw Fatty yn ddiweddarach gan mae llythrennau cyntaf ei enwn yw F.A.T.), yn cwrdd yn lleoliad y tân ac yn y diwedd yn datrys y dirgelwch gyda'i gilydd.

Ymhlith y rhai sydd dan amheuaeth yw hen drempyn, gwas wedi'i ddiswyddo, cydweithiwr gelyniaethus, a'r cogydd. Mae'r pump yn dod o hyd i gliwiau penodol: danadl poethion wedi'u torri i lawr mewn ffos, ôl troed mewn cae glaswelltog, ac awyrennau (y mae Mr Hick yn sôn eu bod "wedi eu gweld yn hedfan drosodd" y diwrnod o'r blaen).

Mae'r plant yn sylweddoli bod Mr Hick yn gwrth-ddweud ei hun. Mae'n honni ei fod wedi bod ar drên Llundain pan losgwyd y bwthyn, mae hefyd yn dweud ei fod wedi gweld awyrennau yn hedfan dros y pentref ar yr un pryd. Mae Fatty yn darganfod bod y bwthyn a'r ysgrifau llosg y mae Mr Hick yn eu disgrifio fel y rhai 'pwysicaf' wedi'u hyswirio. Mae'r plant yn dyfarnu bod Mr Hick wedi llosgi ei fwthyn ei hun am yr arian yswiriant. Mae'r llyfr hefyd yn cyflwyno'r Arolygydd Jenks, sy'n troi allan i helpu'r plant ac yn dod yn ffrind da iddynt.[2]

Cymeriadau golygu

  • Mrs. Minns - Gwraig tŷ Mr Hick, sy'n dioddef o gryd cymalau
  • Clear-Orf (Mr. Goon) - Plismon Peterswood
  • Horace Peeks - Cyn-weithiwr i Mr Hick a gafodd ei ddiswyddo am wisgo dillad Mr Hick tra roedd Mr Hick allan. Mae amheuaeth ei fod wedi llosgi'r bwthyn fel dial
  • Mr. Smellie - Ysgolhaig dysgedig a chyn ffrind i Mr. Hick. Mae ef hefyd o dan amheuaeth, gan fod ganddo obsesiwn ag ysgrifau, papurau a dogfennau tebyg i rai Mr Hick
  • Miss Miggle - Morwyn garedig ac addfwyn Mr. Smellie
  • Hannah - Chwaer Mrs. Minns sy'n arogli'r tân cyn i Mrs Minns sylwi arni
  • Lily - Un o weithwyr Mr Hick a chariad cyfrinachol Horace Peeks
  • Arolygydd Jenks - Ffrind da i'r Pum Darganfyddwr ac arolygydd heddlu, bob amser yn gwneud Mr Goon yn nerfus er ei fod yn ddyn hynod siriol, caredig ac addfwyn
  • Hilton - mam lem Pip a Bets

Cyfeiriadau golygu

  1. Blyton, Enid. (2003). The mystery of the burnt cottage. London: Egmont. ISBN 978-1-4052-0393-7. OCLC 51235622.
  2. "The Mystery of the Burnt Cottage (Five Find-Outers, book 1) by Enid Blyton". www.fantasticfiction.com. Cyrchwyd 2020-01-08.

Dolenni allanol golygu

Gweler hefyd golygu

Llyfryddiaeth Enid Blyton