The Road Not Taken
Cerdd Saesneg gan y bardd Americanaidd Robert Frost yw "The Road Not Taken" a gyhoeddwyd gyntaf yn Awst 1915 yng nghylchgrawn The Atlantic Monthly. Dyma'r gerdd gyntaf yn ei drydydd gasgliad o farddoniaeth, Mountain Interval (1916).[2]
Math o gyfrwng | cerdd |
---|---|
Awdur | Robert Frost |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1915 |
Genre | barddoniaeth |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Two roads diverged in a yellow wood,
And sorry I could not travel both
And be one traveler, long I stood
And looked down one as far as I could
To where it bent in the undergrowth;
Then took the other, as just as fair,
And having perhaps the better claim,
Because it was grassy and wanted wear;
Though as for that the passing there
Had worn them really about the same,
And both that morning equally lay
In leaves no step had trodden black.
Oh, I kept the first for another day!
Yet knowing how way leads on to way,
I doubted if I should ever come back.
I shall be telling this with a sigh
Somewhere ages and ages hence:
Two roads diverged in a wood, and I—
I took the one less traveled by,
And that has made all the difference.[1]
Ysgrifennir y gerdd o safbwynt un sydd yn dilyn llwybr mewn coedwig, ac yn y pennill cyntaf yn cyrraedd man lle mae'r ffordd yn fforchio'n ddwy. Yn yr ail a'r trydydd pennill mae'r troediwr yn astudio'r ddwy ffordd i geisio canfod pa un sydd gwell ei dilyn, ac o'r diwedd yn dewis y llwybr sydd yn dangos y lleiaf o fynd arni. Clo'r gerdd gyda'r cerddwr yn y pedwerydd pennill yn datgan ei ragdybiaeth y byddai'n cofio'r daith yma yn y dyfodol pell: "I took the one less traveled by, / And that has made all the difference."
Hon yw un o hoff gerddi'r Americanwyr, er bod nifer fawr o ddarllenwyr yn ei chamddeall. Tybiasant taw cerdd braf ydyw sydd yn canu clod yr ewyllys rydd ac yn ysbrydoli'r darllenwr i herio'r drefn trwy ddewis y ffordd a llai o deithio ar hyd-ddi. Yn wir, pwysleisia'r bardd yn yr ail a'r trydydd pennill bod y ddwy ffordd yn debyg iawn i'w gilydd wrth i'r cerddwr geisio gwahaniaethu rhyngddynt. Dewis mympwyol yw ei benderfyniad, nid antur neu fynegiant o anghydffurfiaeth. Cyfaddefiad eironig gan yr adroddwr ydy'r pennill olaf, nid argyhoeddiad hyderus o'i herfeiddiwch. Adnabydda'r bardd y tuedd gan bobl i ymddyrchafu, i gyfiawnhau'r gorffennol ac i weld eu bywydau fel cyfres o benderfyniadau ymwybodol rhwng dewisiau da a drwg. Dywedodd Frost i'w gynulleidfa mewn darlith, "You have to be careful of that one. It's a tricky poem, very tricky."
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Robinson, Katherine. "Robert Frost: "The Road Not Taken"". Poetry Foundation. Poetry Foundation. Cyrchwyd 4 Mehefin 2019.
- ↑ Dierdre Fagan, Critical Companion to Robert Frost: A Literary Reference to His Life and Work (Efrog Newydd: Facts On File, 2007), tt. 293–5.
Darllen pellach
golygu- David Orr, The Road Not Taken: Finding America in the Poem Everyone Loves and Almost Everyone Gets Wrong (Efrog Newydd: Penguin, 2015).