The Royal Tenenbaums
ffilm gomedi a drama-gomedi gan Wes Anderson a gyhoeddwyd yn 2001
Mae The Royal Tenenbaums (2001) yn ffilm gomedi-drama Americanaidd wedi'i chyfarwyddo gan Wes Anderson, a'i chyd-ysgrifennu ag Owen Wilson. Sêr y ffilm yw Danny Glover, Gene Hackman, Anjelica Huston, Bill Murray, Gwyneth Paltrow, Ben Stiller, Luke Wilson, ac Owen Wilson. Mae'n honni i fod yn seiliedig ar nofel (nad yw'n bodoli) ac yn cael ei hadrodd â naratif lenyddol. Mae'n dilyn stori dau frawd a chwaer ddawnus sy'n profi llwyddiant mawr yn eu hieuenctid, cyn profi siom a methiant fel oedolion. Mae tad ecsentrig, Royal Tenenbaum, sydd wedi eu gadael yn ystod eu harddegau, yn dychwelyd pan maent yn oedolion, gan honni fod ganddo salwch angeuol.
Enghraifft o'r canlynol | ffilm |
---|---|
Lliw/iau | lliw |
Dyddiad cyhoeddi | 14 Rhagfyr 2001, 14 Mawrth 2002 |
Genre | ffilm gomedi, drama-gomedi |
Prif bwnc | dysfunctional family |
Lleoliad y gwaith | Dinas Efrog Newydd |
Hyd | 108 munud |
Cyfarwyddwr | Wes Anderson |
Cynhyrchydd/wyr | Scott Rudin, Owen Wilson, Barry Mendel |
Cwmni cynhyrchu | Touchstone Pictures |
Cyfansoddwr | Mark Mothersbaugh |
Dosbarthydd | Walt Disney Studios Motion Pictures, Netflix |
Iaith wreiddiol | Saesneg |
Sinematograffydd | Robert Yeoman |
Gwefan | http://www.royaltenenbaums.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |