The Story of My Life (hunangofiant Benjamin William Chidlaw)
Mae The Story of My Life, yn hunangofiant gan y Parchedig B W Chidlaw a gyhoeddwyd gan Argraffwasg William H. Hirst, Philadelphia ym 1890. Cyhoeddwyd amlinelliad o gynnwys y llyfr yn y Gymraeg yn gyntaf fel cyfres o erthyglau yng nghylchgrawn Y Drych. Mae'r gyfres yn dechrau gyda phennod Adgofion Boreuol ar 27 Ionawr 1876.[1] Mae'r llyfr Saesneg wedi ehangu llawer o gynnwys yr erthyglau.[2]
Clawr y llyfr | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Benjamin William Chidlaw |
Cyhoeddwr | W. H. Hirst |
Gwlad | UDA |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1890 |
Genre | hunangofiant |
Prif bwnc | Benjamin William Chidlaw |
Cefndir
golyguMae'r gyfrol yn adrodd hanes Benjamin William Chidlaw (14 Gorffennaf 1811 -14 Gorffennaf 1892), gweinidog Presbyteraidd Cymreig a anwyd yn y Bala a bu farw yn Nolgellau, ond bu'n fyw yn yr Unol Daleithiau am ran fwyaf ei oes yn gweithio fel cenhadwr dros achos yr ysgol Sul.[3]
Cynnwys
golyguEr bod nifer o lyfrau cofiant i hen weinidogion yr oes o'r blaen yn gallu bod yn sobor o sych a diflas i'w darllen yn ein dyddiau ni, mae rhannau o My Story yn darllen fel stori antur mewn rhai penodau. Mae'r stori yn agor gyda hanes Chidlaw yn cael ei eni a'i fagu yn y Bala lle mae ei dad, amaethwr ac aelod o gapel yr Annibynwyr, wedi cael llond bol o dalu treth o 10% o'i holl gynnyrch (y degwm) i gadw Eglwys Loegr. Mae'r tad yn penderfynu mynd a'r teulu i'r America er mwyn cael tegwch a rhyddid addoliad. Mae'r llyfr yn adrodd hanes y daith o Lerpwl i Efrog Newydd ar long, a'r daith o Efrog Newydd i Radnor, Ohio mewn cert cowbois. O fewn ychydig filltiroedd i gyrraedd pen y daith mae tad Chidlaw yn farw o golera ac mae ei fam yn mynd yn ddifrifol sâl efo'r un cyflwr. Er gwaethaf marwolaeth ei dad a salwch ei fam rhaid adeiladu Caban Boncyffion er mwyn cael lle i'r teulu aros a gweithio'r tir er mwyn cael moddion iddynt fyw.
Mae'r hunangofiant yn sôn am ymdrech Childlaw i gael addysg trwy weithio am dymor er mwyn ennill digon o arian i gael addysg am dymor mewn ysgol a choleg, gweithio tymor arall, cael addysg am dymor arall ac ati. Trwy'r drefn yma mae'n llwyddo cael addysg sylfaenol, addysg uwchradd ac addysg o ddwy Brifysgol. Wedi cael ei ordeinio yn weinidog ar gapel Cymraeg yn America ceir hanes ei daith gyntaf yn ôl i Gymru, er mwyn ymarfer pregethu yn y Gymraeg. Yn ystod y daith mae'n un o'r cyntaf i gyflwyno athrawiaeth grefyddol newydd, oedd ar dân yn yr UD, Dirwest (y gred na ddylai Cristion yfed diodydd alcohol), i Gymru.
Wedi iddo gael ei benodi yn genhadwr i'r "American Sunday School Union" cawn hanes yn yr hunangofiant am ei deithiau i gyffindiroedd gorllewin America, "The Wild West", i sefydlu cannoedd o ysgolion Sul newydd.
Mae'r hunangofiant yn cofnodi ei atgofion o wasanaethu fel Caplan Milwrol yn ystod Rhyfel Cartref America a'i gyfnod fel Caplan Carchardai a chaplan ysgolion penyd i blant.
Mae copi digidol o'r llyfr ar gael i'w darllen yn di dal ar wefan Internet Archive.[4]
Penodau
golyguMae'r gyfrol yn gynnwys y penodau canlynol:
- My Birthplace
- An Investment
- The Death of a Young Woman
- Visit Wales
- A Kind Offer
- Returning Home
- Anecdote of Dr Lyman Beecher
- A Step Onward
- The War Cloud of 1861
- The United States Sanitary Commission. Battle of Perryville. Work in the Hospitals
- An Appointment
- Resuming Missionary Work
- The Presbyterian Reunion at Pittsburg
- Departure for Wales
- Valley Camp Reunion
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "ADGOFION BOREUOL - Y Drych". Mather Jones. 1876-01-27. Cyrchwyd 2019-09-09.
- ↑ Chidlaw, B. W. (Benjamin William) (1890). The story of my life. Philadelphia: W.H. Hirst.
- ↑ "CHIDLAW, BENJAMIN WILLIAM (1811 - 1892) | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-11-28.
- ↑ "Internet Archive: Digital Library of Free & Borrowable Books, Movies, Music & Wayback Machine". archive.org. Cyrchwyd 2019-11-27.