The Umbrella Academy
Rhaglen drama Americanaidd yw The Umbrella Academy a chafodd ei ddatblygu ar gyfer Netflix gan Steve Blackman a Jeremy Slater. Mae’r gyfres yn addasiad o’r gyfres llyfrau comig o’r un enw, wedi’i greu gan Gerard Way a Gabriel Bᾴ. Mae’r plot yn adros hanes teulu o frodyr a chwiorydd wedi’i mabwysiadu sy’n arwyr goruwchnaturiol, ac maent yn aduno i ddatrys dirgelwch marwolaeth eu tad, a bygythiad yr apocalyps sydd ar fin digwydd.
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | cyfres deledu ![]() |
Crëwr | Steve Blackman ![]() |
Lleoliad y gwaith | Toronto ![]() |
Hyd | 57.5 ±11 munud ![]() |
Dechreuwyd | 15 Chwefror 2019 ![]() |
Genre | action television series, cyfres ddrama deledu, superhero television program, television adaptation ![]() |
Cymeriadau | Vanya Hargreeves, Luther Hargreeves, Diego Hargreeves, Allison Hargreeves, Klaus Hargreeves, Number Five, Ben Hargreeves, Reginald Hargreeves ![]() |
Yn cynnwys | The Umbrella Academy, season 1, The Umbrella Academy, season 2 ![]() |
Cyfansoddwr | Jeff Russo ![]() |
Gwefan | https://www.netflix.com/title/80186863 ![]() |
CefndirGolygu
Cynhyrchir y rhaglen gan Bordeline Entertainment, Dark Horse Entertainment ac Universal Cable Productions. Roedd bwriad i The Umbrella Academy fod yn ffilm i ddechrau, ond yn 2015 penderfynwyd ei wneud yn gyfres deledu, cyn cael ei gomisiynu gan Netflix yn Ngorffennaf 2017. Ffilmiwyd y rhaglen yn Toronto ac Hamilton, Canada. Cafodd yr gyfres ei gyhoeddi ar 15 Chwefror 2019.
CastGolygu
- Elliot Page fel Vanya Hargreeves
- Tom Hopper fel Luther Hargreeves
- David Castañeda fel Diego Hargreeves
- Emmy Raver-Lampman fel Allison Hargreeves
- Robert Sheehan fel Klaus Hargreeves
- Aiden Gallagher fel Number 5
- Mary J. Blige fel Cha-Cha
- Cameron Britton fel Hazel