The Witch-Cult in Western Europe

Llyfr anthropolegol gan Margaret Murray yw The Witch-Cult in Western Europe (1921) (Cymraeg answyddogol: Cwlt y Gwrachod yng Ngorllewin Ewrop). Cyhoeddwyd y llyfr adeg llwyddiant Golden Bough gan James Frazer.[1] Adeg hynny, credai nifer o bobl hyddysg mai Margaret Murray oedd un o'r arbenigwyr yr oes parthed swyngyfaredd a gwrachyddiaeth y gorllewin, er i'w damcaniaethau gael eu hamau yn eang. Dros gyfnod rhwng 1929-1968, Murray ysgrifennodd gofnod "Witchcraft" mewn sawl cyhoeddiad o'r Encyclopædia Britannica.

Ym 1962, ailargraffwyd The Witch-Cult in Western Europe gan Wasg Prifysgol Rhydychen. Mae damcaniaeth Murray, a elwir hefyd yn ddamcaniaeth cwlt y gwrachod, yn awgrymu bod y cyhuddiadau a wnaed tuag at "wrachod" yn Ewrop mewn gwirionedd yn seiliedig ar grefydd baganaidd go iawn, er yn ddirgel, a oedd yn addoli duw corniog.

Trosolwg

golygu

Traethawd ymchwil

golygu

Yn y llyfr hwn a'r llyfr dilynol, The God of the Witches (1931), cyflwynodd Murray ei damcaniaeth fel a ganlyn.

  • Hyd at yr 17eg ganrif, yr oedd yna grefydd a oedd yn llawer hŷn na Christnogaeth, a oedd ag aelodau ledled Gorllewin Ewrop ymhlith y bobl werin a'r dosbarthiadau llywodraethol.
  • Yn brif gred i'r ddamcaniaeth oedd addoli duw corniog dauwynebog, a adwaenid gan y Rhufeiniaid yn Ianws neu Dianws. (Disgrifiwyd cwlt Ianws yn fanwl gan James Frazer yn The Golden Bough).
  • Yr oedd y duw corniog yn portreadu cylchred y tymhorau a'r cynaeafau. Credir iddo farw ac yn dychwelyd i fywyd yn dragwyddol.
  • Ar y ddaear, yr oedd y duw corniog yn cael ei bortreadu gan fodau dynol dethol. Yr oedd rhai enwogion yn eu plith, megis William Rufus, Thomas Becket, Siwan o Arc, a Gilles de Rais. Bu farw pob un ohonynt farwolaeth drasig yn aberthiad defodol i sicrhau atgyfodiad y duw ac adnewyddiad y ddaear.
  • Yn y pentrefi, y duw corniog oedd yn arwain cyfarfodydd y gwrachod. Efallai y credai arsylwyr Cristnogol o'r digwyddiadau hyn fod y gwrachod yn addoli'r diafol, pan oeddent mewn gwirionedd yn dathlu Ianws, y duw cyn-Gristnogol.
  • Gweithredwyd cadwraeth yr hen grefydd hon i amrywiaeth o bobl frodorol a yrrwyd allan o'u gwlad gyda phob goresgyniad newydd. Byddai hyn hefyd yn esbonio'r storïau am y tylwyth teg, corachod, a 'phobl fach' eraill. Yr oedd y creaduriaid hyn yn swil iawn ond yn gallu trosglwyddo gwybodaeth am eu crefydd i'r werin bobl. Y gwrachod oedd eu disgyblion ac felly etifeddont yr hen grefydd.
  • Yn ôl Murray, yr oedd cwfenoedd lleol yn cynnwys tri aelod ar ddeg: deuddeg o ddynion a merched cyffredin, ac un swyddog. Yr oedd yn ofynnol i bob aelod gynnal cyfarfod wythnosol (a enwyd yn 'esbat' gan Murray) a mynychu'r Sabatau (gwyliau) mawrion.
  • Yr oedd disgyblaeth lem yn y cwfenoedd, a gallai pwy bynnag a fethodd gyfarfod gael ei gosbi'n llym a'i ddienyddio weithiau.
  • Yr oedd y drefn a’r strwythur mor dda fel y bu’n rhaid i Gristnogaeth aros tan y Diwygiad Protestannaidd cyn cymryd sylw eang o’r grefydd gudd. Felly yr oedd yr erlidiau gwrachod mawrion yn ymosodiad Cristnogaeth ar wrthwynebydd pwerus.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Frazer, James George (July 1917). "Chapter 3: Sympathetic Magic; 1. The Principles of Magic". The Golden Bough: A Study in Magic and Religion (arg. 3rd). MacMillan and Co. tt. 52–54. OCLC 35562495.

Ffynonellau

golygu

Dolenni allanol

golygu