Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT)

Therapi seicolegol yw Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) sy’n gallu helpu pobl i reoli eu problemau trwy newid eu ffordd o feddwl ac ymddwyn. Fel arfer caiff ei ddefnyddio i drin unigolyn sy’n dioddef o bryder ac iselder. Hefyd gall CBT fod o ddefnydd ar gyfer problemau iechyd meddwl a chorfforol eraill.

Mae CBT yn gweithio ar y cysylltiadau rhwng eich meddyliau (gwybyddiaeth), ymddygiad a theimladau. Mae'n dysgu unigolion sut i adnabod a mynd i’r afael â’u problemau yn y fan a’r lle, yn hytrach nag yn y gorffennol. Mae’n destun astudiaethau helaeth, ac mae tystiolaeth ei fod yn gweithio, yn enwedig mewn perthynas ag iselder a phryder.

Yn draddodiadol, cyfres o sesiynau unigol gyda seicolegydd oedd CBT.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Therapi Gwybyddol Ymddygiadol". GIG Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-21. Cyrchwyd 21/11/2017. Check date values in: |access-date= (help)