Thomas Bach
Cyn-glefyddwr Almaenig yw Thomas Bach (ganwyd 29 Rhagfyr 1953)[1] sydd wedi gwasanaethu yn swydd Llywydd y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol ers 2013.
Thomas Bach | |
---|---|
Thomas Bach yn 2012 | |
Ganwyd | 29 Rhagfyr 1953 Würzburg |
Dinasyddiaeth | yr Almaen |
Addysg | doethur yn y ddwy gyfraith |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ffensiwr, cyfreithegwr, swyddog chwaraeon, gwleidydd |
Swydd | president of the International Olympic Committee |
Taldra | 171 centimetr |
Pwysau | 90 cilogram |
Plaid Wleidyddol | Free Democratic Party |
Gwobr/au | Silbernes Lorbeerblatt, Croes Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Urdd Anrhydedd, Urdd Teilyngdod Baden-Württemberg, Order of Prince Yaroslav the Wise, 5th class, Order of Prince Yaroslav the Wise, 4th class |
Chwaraeon | |
llofnod | |
Ganwyd Bach yn ninas Würzburg yn ne'r Almaen. Enillodd fedal aur am gleddyfa (ffwyl tîm) yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1976. Daeth yn aelod o'r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol ym 1991 a gwasanaethodd yn swydd is-lywydd teirgwaith. Roedd yn gadeirydd comisiwn cyfreithiol y pwyllgor.[2]
Etholwyd Bach yn nawfed Lywydd y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol ar 10 Medi 2013, gan olynu Jacques Rogge.[3]
Cyfeiriadau golygu
- ↑ (Saesneg) The IOC: Presidents. Olympic.org. Adalwyd ar 11 Ionawr 2014.
- ↑ (Saesneg) Profile: IOC chief Thomas Bach. BBC (10 Medi 2013). Adalwyd ar 11 Ionawr 2014.
- ↑ (Saesneg) Gibson, Owen (10 Medi 2013). Thomas Bach elected to succeed Jacques Rogge as IOC president. The Guardian. Adalwyd ar 11 Ionawr 2014.