Thomas Dafydd

bardd gwlad ac emynydd

Bardd gwlad ac emynydd o Sir Gaerfyrddin oedd Thomas Dafydd (fl. 1765 - 1792).

Thomas Dafydd
Ganwyd18 g Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Oes a gwaith golygu

Roedd Thomas Dafydd yn frodor o blwyf Llanegwad yn Sir Gaerfyrddin. Mae ei ddyddiad geni yn ansicr ac ychydig a wyddom amdano.

Canai farwnadau yn ei sir enedigol. Cyhoeddodd 11 casgliad bach o emynau yn ystod ei oes, pump yn gyfres dan y teitl Taith y Pererin (gan ddynwared teitl llyfr enwog John Bunyan, Taith y Pererin), a chwech arall fel cyfrolau unigol. Roedd dipyn o fynd ar y casgliadau hyn yn Sir Gaerfyrddin yn oes y bardd, ond ni chenir ei emynau heddiw.