Thomas Mardy Rees
gweinidog (A), hanesydd a llenor
Awdur a phregethwr o Gymru oedd Thomas Mardy Rees (1871 – 2 Mai 1953). Roedd yn frodor o Gastell-nedd, Morgannwg, yn ne Cymru. Roedd yn weinidog gyda'r Annibynwyr.
Thomas Mardy Rees | |
---|---|
Ganwyd | 1871 Castell-nedd |
Bu farw | 2 Mai 1953 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, hanesydd, llenor |
Wedi gadael yr ysgol, gyda'i dad yng nglofa'r Fforest Fforchdwm ac yna Melin-cwrt a'r Maerdy yn y Rhondda Fach. Yn y Maerdy, achubwyd ef, ei dad a'i frawd John wedi tanchwa ym mhwll rhif 2 ar 23 Rhagfyr 1885.[1]
Ysgrifennai yn Gymraeg ac yn Saesneg ar hanes Anghydffurfiaeth a'r Crynwyr, hanes celf yng Nghymru a llyfrau poblogaidd ar hanes Cymru. Cyhoeddodd yn ogystal gyfrol o straeon byrion doniol Cymraeg am fywyd glowyr y De, Difyrwch Gwyr Morgannwg (sic).
Llyfryddiaeth ddethol
golygu- Welsh Painters, Engravers, Sculptors (1527-1911) (Caernarfon, 1912)
- Ystoriau Difyr
- Mynychdai Cymru
- Difyrwch Gwyr Morgannwg (Caernarfon, d.d.=tua 1920)
- A History of the Quakers in Wales and their emigration to North America (Caerfyrddin, 1925)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; Llyfrgell Genedlaethol Cymru.