Thomas Thomas (telynor)
cyfansoddwr a aned yn 1829
Telynor o Gymru oedd Thomas Thomas, hefyd Thomas ap Thomas neu Ap Tomos (1829–1913).
Thomas Thomas | |
---|---|
Ganwyd | 1829 Pen-y-bont ar Ogwr |
Bu farw | 1913 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cyfansoddwr |
Fe'i anwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn fab i John a Catherine Thomas ac yn frawd i John Thomas (Pencerdd Gwalia).[1] Bu'n teithio'n helaeth trwy Ynysoedd Prydain ac ar gyfandir Ewrop. Ym 1873 fe ymddangosodd yng Nghyngherddau Gewandhaus, Leipzig. Perfformiodd yn America gyda Louis Moreau Gottschalk a Henriette Behrend.[2] Roedd yn awdur y llyfr History of the Harp (1859) a chyfansoddodd nifer o ffantasiâu ar gyfer yr offeryn.[3] Bu farw yn Ottawa, Canada ym 1913.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Repercussions, 1857-1862 - Tudalen 563 Vera Brodsky Lawrence - 1999 "... 453-54 Aptommas (né Thomas Thomas) (1829-1913), Welsh harpist/composer arrangement of "Home, Sweet Home," 88 leaves for Europe, 454 offers harp classes, 299 performances at Bristow testimonial concert, 290n concerts...
- ↑ S. Frederick Starr Louis Moreau Gottschalk - Tud. 151 2000 "Quickly engaging the Welsh harpist Aptomas (Thomas Thomas, 1829-1913) and the beautiful young New York soprano Henriette Behrend, Gottschalk departed on a New England tour thrown together for him by Helmsmuller."
- ↑ Stratton, Stephen S (1897). British Musical Biography. t. 11.
- ↑ Llyfr Google (Strong on Music); adalwyd 28 Ebrill 2014