Throbbing Gristle

Grŵp cerddoriaeth a chelfyddydau gweledol Saesneg

Roedd Throbbing Gristle yn grŵp cerddoriaeth a chelfyddydau gweledol Saesneg.

Genesis P-Orridge gyda Throbbing Gristle

Ffurfiwyd yn Kingston upon Hull gan Genesis P-Orridge a Cosey Fanni Tutti. Ymunodd Peter Christopherson, Peter "Sleazy" Christopherson a Chris Carter yn ddiweddarach.

Maent yn cael eu hystyried fel arloeswyr cerddoriaeth ddiwydiannol. Gan datblygu o'r grŵp celf perfformio arbrofol COUM Transmissions, gwnaeth Throbbing Gristle eu début cyhoeddus ym mis Hydref 1976 yn arddangosfa COUM - Prostitution. Rhyddhawyd eu sengl gyntaf "United" a'i L.P. cyntaf The Second Annual Report y flwyddyn ganlynol. [1][2]

Roedd geiriau P-Orridge yn ymwneud yn bennaf â chyfriniaeth, ideolegau gwleidyddol eithafol, rhywioldeb, agweddau tywyll neu danddaearol o gymdeithas, a thriniaeth o iaith wedi'i ysbrydoli gan dechnegau William S. Burroughs.

Aeth y band ymlaen i rhyddhau nifer o albymau stiwdio a byw - gan gynnwys D.o.A: The Third and Final Report of Throbbing Gristle (1978), 20 Jazz Funk Greats (1979), a Heathen Earth (1980) - ar eu label recordio eu hunain Industrial Records. Roedd eu gwaith yn nodweddiodol am estheteg heriol yn cynnwys y defnydd helaeth o ddelweddau gweledol annifyr, megis Ffasgaeth eironig, yn ogystal â sŵn a thrin sain dan ddylanwad gwaith Burroughs a Brion Gysin.

Rhoddodd Throbbing Gristle y gorau iddi ym 1981 oherwydd gwahaniaethau personol. Aeth yr aelodau unigol ymlaen i gymryd rhan mewn prosiectau eraill, fel Psychic TV, Coil, a Chris & Cosey. Ali ffurfiodd y band yn 2004, a rhyddhawyd tri albwm stiwdio arall - TG Now (2004), Part Two (2007), a The Third Mind Movements (2009) - cyn rhoi'r gorau iddi eto ar ôl ymadawiad P-Orridge ym mis Hydref 2010 a marwolaeth Christopherson y mis canlynol. Rhyddhawyd prosiect stiwdio olaf y band, fersiwn o albwm 1970 Nico Desertshore o'r enw The Desertshore Installation , yn 2012 o dan yr enw X-TG [3]

Bu farw P-Orridge o liwcemia ar 14 Mawrth 2020.[4]

Cyfeiriadau

golygu