Mae'r thymws yn organ lymffoid arbenigol sy'n rhan o'r system imiwnedd. Mae'r thymws i'w canfod o flaen y galon a thu ôl i'r sternwm. Yn y thymws, bydd celloedd T neu lymffocytau T yn aeddfedu. Mae celloedd T yn hanfodol i'r system imiwnedd addasol, lle mae'r corff yn addasu'n benodol i ymosod ar antigenau estron. Y thymws yw lle mae celloedd T yn datblygu o gelloedd hematopoietig (sy'n ffurfio gwaed). Yn ogystal, dyma le mae'r celloedd T yn addasu i fod yn oddefgar i gelloedd y corff[1].

Thymws
Enghraifft o'r canlynolmath o chwarren, dosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathmeinwe lymffatig, corticomedullary organ, endid anatomegol arbennig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
OSC Microbio 18 01 thymus

Mae'r thymws yn fwyaf gweithgar yn ystod y cyfnodau newydd-anedig a chyn y glasoed. Erbyn yr arddegau cynnar, mae'r thymws yn dechrau arafu. Fodd bynnag, mae'n parhau i wneud lymffocytau trwy gydol oes oedolion.

Gelwir yr organ yn thymws oherwydd bod ei siâp yn debyg i ddeilen y planhigyn teim[2].

Strwythur golygu

Mae'r thymws yn organ meddal lled drionglog a leolir yn mediastinwm y ceudod thorasig ychydig yn uwch ac o flaen y galon a thu ôl i'r sternwm. Mae ganddo ddwy labed, y ddwy wedi amgylchu gan gapsiwl ffibrog gwydn. O fewn y ddwy labed mae rhan arwynebol o feinwe o'r enw'r cortecs a rhanbarth dwfn o'r enw'r medwla. Meinweoedd epithelaidd a meinweoedd lymffatig sy'n cynnwys celloedd canghennog a macroffagau sy'n ffurfio'r mwyafrif o'r ddau ranbarth.

Mae'r thymws yn tyfu'n gyflym ac yn cyrraedd ei faint mwyaf o'i gymharu â gweddill y corff yn ystod oes y ffetws a blynyddoedd cyntaf plentyndod[3]. Wedi hynny, mae'n parhau i dyfu, ond yn arafach na'r organau eraill. Ar ddechrau glasoed mae'r thymws yn dechrau proses araf o fynd yn llai. Mae'r gostyngiad graddol hwn yn parhau trwy weddill bywyd yr unigolyn. Mae'r thymws yn cyrraedd ei phwysau mwyaf (20 i 37 gram) erbyn cyfnod y glasoed. Wrth i unigolyn heneiddio, mae ei thymws yn crebachu'n raddol, gan ddirywio i mewn i ynysoedd bach o feinwe brasterog. Erbyn 75 mlwydd oed, mae'r thymws yn pwyso dim ond 6 gram. Mewn plant, mae'r thymws yn llwyd-binc mewn lliw ac mewn oedolion mae'n felyn.

Swyddogaeth golygu

Mae lymffocytau T neu gelloedd T yn gelloedd gwaed gwyn sy'n diogelu rhag organebau estron (bacteria a firysau) sydd wedi llwyddo i heintio celloedd y corff[4]. Swyddogaeth y thymws yw derbyn celloedd T anaeddfed sy'n cael eu cynhyrchu yn fer esgyrn coch a'u hyfforddi i ddyfod yn gelloedd T gweithredol, aeddfed sy'n ymosod ar gelloedd estron yn unig. Mae nifer o hormonau a gynhyrchir gan y thymws yn hyrwyddo cymedroli'r celloedd T cyn eu rhyddhau i mewn i'r llif gwaed. Mae'r celloedd T aeddfed wedyn yn cylchredeg trwy'r corff lle maent yn adnabod ac yn lladd pathogenau estron, yn gwneud celloedd B yn weithredol ac yn storio cof am gyn heintiau.

Mae'r thymws yn tyfu yn ystod plentyndod ac yn crebachu yn yr oedolyn. Mae'r crebachu yn digwydd oherwydd bod llai o rôl gan y thyroid i chware yng nghyrff oedolion - mae'r system imiwnedd yn cynhyrchu'r rhan fwyaf o'i gelloedd T yn ystod plentyndod ac mae angen ychydig iawn o gelloedd T newydd ar ôl y glasoed.

Anifeiliaid eraill golygu

Mae'r thymws yn bresennol ym mhob fertebriad sydd â genau, lle mae'n mynd trwy'r un broses o grebachu gydag oedran ac yn chwarae'r un swyddogaeth yn y system imiwnedd ac y mae mewn corff dynol. Mae thymws ŵyn a lloi yn cael eu cyfrif yn ddanteithfwyd.

Cyfeiriadau golygu

  1. Gray's anatomy : the anatomical basis of clinical practice (40th ed.). London: Churchill Livingstone, 2008. Golygydd Susan Standring ; ISBN 978-0-8089-2371-8
  2. Encyclopædia Britannica Thymus adalwyd 30 Ionawr 2018
  3. Inner Body Thymus Gland adalwyd 30 Ionawr 2018
  4. Thought Co Learn About the Thymus Gland adalwyd 30 Ionawr 2018