Tinker Tailor Soldier Spy (rhaglen deledu)

Cyfres deledu a ddarlledwyd gan y BBC ym 1979 yw Tinker Tailor Soldier Spy sy'n addasiad o'r nofel ysbïo Tinker Tailor Soldier Spy gan John le Carré. Cafodd ei haddasu gan Arthur Hopcraft a'i chyfarwyddo gan John Irvin. Mae'n serennu Alec Guinness mewn rhan George Smiley, yr enwocaf o gymeriadau le Carré, ac ystyrid hwn yn un o berfformiadau gorau Guinness.[1]

Darlledwyd saith pennod y gyfres rhwng 10 Medi a 22 Hydref 1979, ac yn ystod y cyfnod hwn cafodd Anthony Blunt ei enwi fel un o ysbiwyr Sofietaidd Pump Caergrawnt, cyd-ddigwyddiad o nod gan yr oedd stori le Carré yn seiliedig ar hanes Kim Philby, un o gyd-ysbiwyr Blunt. Gwnaed dilyniant ym 1982, Smiley's People, sy'n seiliedig ar y nofel o'r un enw gan le Carré.

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Sergio Angelini. Tinker Tailor Soldier Spy (1979). BFI Screenonline. Adalwyd ar 7 Mawrth 2012.