Tinwen y garn

rhywogaeth o adar
Tinwen y garn
Ceiliog yn Llydaw
Cân Tinwen y Garn; 1966
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Muscicapidae
Genws: Oenanthe
Rhywogaeth: O. oenanthe
Enw deuenwol
Oenanthe oenanthe
(Linnaeus, 1758)

Aderyn bychan o deulu'r Muscicapidae yw Tinwen y garn (ll. tinwennod; enw Lladin:Oenanthe oenanthe); yn flaenorol ystyrid ei fod yn aelod o deulu'r bronfreithod, y Turdidae. Mae'n rywogaeth cyffredin iawn yn Ewrop a rhannau o Asia. Mae'n 14½–16 cm o hyd, fymryn yn fwy na Robin Goch. Daw'r enw o'r darn gwyn uwchben y gynffon, rhywbeth sy'n amlwg iawn wrth i'r aderyn hedfan i ffwrdd.

Tinwen y Garn ger Ynys Lawd, ar Ynys Môn; Mai 2021

Mae Tinwen y garn yn aderyn mudol, yn symud tua'r de i Affrica yn y gaeaf. Ar dir agored y mae'n nythu, yn enwedig lle mae cerrig neu greigiau. Yng Nghymru, mae'n aderyn nodweddiadol o'r ucheldiroedd; er enghraifft mae'n nythu bron hyd at gopaon mynyddoedd uchaf Eryri.

Digwyddiadau golygu

  • Un peth a fu’n nodwedd o wanwyn 2013 oedd y fflyd o dinwennod y garn a gyrhaeddodd gogledd Cymru ddiwedd Mawrth ac a arhosodd yn y caeau gydol Ebrill a hyd yn oed hanner cyntaf Mai (cyn un ai ymsefydlu yma a pharu neu symud yn eu blaenau.)[1]

Aelodau eraill o'r un teulu golygu

Rhestr Wicidata:

label enw tacson delwedd
Adeinfyr torwyn Sholicola major
 
Bronlas Luscinia svecica
 
Eos Luscinia megarhynchos
 
Eos fraith Luscinia luscinia
 
Luscinia brunnea Luscinia brunnea
 
Luscinia calliope Luscinia calliope
 
Luscinia cyane Luscinia cyane
 
Luscinia cyanura Luscinia cyanura
Luscinia obscura Luscinia obscura
Luscinia pectardens Luscinia pectardens
Luscinia pectoralis Luscinia pectoralis
 
Luscinia phoenicuroides Luscinia phoenicuroides
 
Luscinia ruficeps Luscinia ruficeps
 
Robin Swinhoe Larvivora sibilans
 
Sholicola albiventris Sholicola albiventris
 
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Cyfeiriadau golygu

  1. Bwletin Llên Natur rhifyn 64