Person sy'n cynorthwyo'r myfyriwr yw tiwtor a hynny o ran ei addysgu.

Mae tiwtoriaid prifysgol (a elwir yn gynorthwywyr dysgu yn yr Unol Daleithiau a rhannau o Ganada) yn aml yn ddarlithwyr neu'n fyfyrwyr uwchraddedig a bennir i arwain seminarau a thiwtorialau ar gyfer myfyrwyr israddedig.

Mae tiwtoriaid preifat yn addysgu myfyrwyr unigol neu grwpiau bychain o fyfyrwyr am dâl. Defnyddir tiwtoriaid preifat yn aml i addysgu myfyrwyr sydd angen cymorth ychwanegol, myfyrwyr dawnus sy'n dymuno rhagor o hyfforddiant, neu yng nghyd-destun addysg gartref.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am addysg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato