Endromis versicolora
Tlws y bedw
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Endromidae
Genws: Endromis
Ochsenheimer, 1810
Rhywogaeth: E. versicolora
Enw deuenwol
Endromis versicolora
(Linnaeus, 1758)
Cyfystyron
  • Phalaena versicolora Linnaeus, 1758

Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw tlws y bedw, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy tlysau'r bedw; yr enw Saesneg yw Kentish Glory, a'r enw gwyddonol yw Endromis versicolora.[1][2] Mae i'w ganfod yn y Palearctig.

Darlun allan o lyfr John Curtis: British Entomology Volume 5

50–70 mm ydy lled yr adenydd ac mae'n hedfan rhwng Mawrth a Mai, yn ddibynol ar ei union leoliad.

Mae'r fenyw yn fwy na'r gwryw ac mae'n hedfan ar un adeg yn unig: i ddodwy ei hwyau yn y nos. Mae'r gwryw yn hedfan yn y dydd a'r nos. Mae lliw'r fenyw hefyd ychydig yn fwy gwelw. Gall y gwryw glywed ogla'r fenyw hyd at 2 km i ffwrdd.

Prif fwy y siani flewog ydy dail y fedwen.

Cyffredinol golygu

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r tlws y bedw yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.