Toiledi Hundertwasser, Kawakawa
Mae Toiledi Hundertwasser yn Kawakawa, Seland Newydd.
Math | cyfleusterau cyhoeddus |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Te Hononga Hundertwasser Park |
Lleoliad | Kawakawa |
Sir | Far North District |
Gwlad | Seland Newydd |
Cyfesurynnau | 35.38006°S 174.066999°E |
Statws treftadaeth | Heritage New Zealand Category 1 historic place listing |
Manylion | |
Daeth y pensaer Friedensreich Hundertwasser i Seland Newydd yn y 70au ar gyfer arddangosfa o'i waith, a phenderfynodd o brynu ail gartref yn Kawakawa.
Roedd angen toiledi cyhoeddus newydd yn y pentref ym 1998, a chynlluniodd Hundertwasser doiledi anarferol. Crëwyd y teils gan fyfyrwyr o Goleg Bae'r Ynysoedd, a daeth y brics o hen adeilad Banc Seland Newydd. Adeiladwyd y toiledi gan wirfoddolwyr lleol. Erbyn hyn mae'r toiledi'n atyniad twristiaidd[1]. Gwnaethpwyd ffenestri efo poteli lliwgar, y to efo glaswellt, ac mae coed yn tyfu trwy'r to[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Gwefan Bae'r Ynysoedd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-11. Cyrchwyd 2015-01-06.
- ↑ Gwefan atlasobscura
Oriel
golygu-
Y toiledi o'r tu allan
-
Y toiledi dynion o'r tu mewn
-
Y toiledi dynion o'r tu mewn
-
Y toiledi, wrth edrych tu allan