Tîm rasio ceir Fformiwla Un o'r Deyrnas Unedig oedd Token Racing. Mae'n nodedig oherwydd mai mewn car Token y cymerodd Tom Pryce ran yn ei Grand Prix cyntaf.

Datblygwyd Token yn wreiddiol gan y tîm rasio Fformiwla Dau Rondel Racing, oedd wedi ei sefydlu gan Ron Dennis a Neil Trundle. Y bwriad oedd i Rondel symud i mewn i Fformiwla Un. Ar y pryd roedd Rondel yn cael eu hariannu gan y cwmni olew Ffrengig Motul, ond collasant gefnogaeth Motul yn 1973 a bu raid i Rondel roi'r gorau i ddatblygu'r car Token.

Wedi i Rondel dynnu allan, ariannwyd Token gan Tony Vlassopoulo a Ken Grob. Cymerodd ran mwen Grand Prix am y tro cyntaf yng Ngrand Prix Gwlad Belg yn 1974, yn cael ei yrru gan Tom Pryce, hefyd yn ei Grand Prix gyntaf. Ni lwyddodd i orffen y ras oherwydd problemau mecanyddol.

Yn ddiweddarach, gyrrwyd y car gan gan David Purley ac Ian Ashley. Bu mewn pedair ras Fformiwla Un i gyd, ond ni lwyddodd i sgorio pwyntiau yn y bencampwriaeth. Yn ddiweddarach newidiodd berchenogaeth a newidiodd enw i Safir.