toki pona
Iaith artiffisial yw toki pona (â llythrennau bychain yn swyddogol) a gyhoeddwyd gyntaf ar y we yn 2001. Fe'i dyluniwyd gan Sonja Lang, sy'n ieithydd o Toronto, Canada.
![]() | |
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | iaith a posteriori, engineered language ![]() |
---|---|
Crëwr | Sonja Lang ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 7 Awst 2001 ![]() |
Enw brodorol | toki pona ![]() |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-3 | tok ![]() |
System ysgrifennu | yr wyddor Ladin, Sitelen Pona, sitelen sitelen ![]() |
Gwefan | https://tokipona.org/ ![]() |
![]() |
Iaith fechan yw toki pona. Fel pidgin, mae'n canolbwyntio ar amodau ac elfennau syml sy'n perthyn i ddiwylliannau gwahanol. Dyluniodd Sonja Lang yr iaith i gyfleu popeth mewn ffordd syml. Mae gan yr iaith 14 ffonem a 120 o wreiddeiriau yn ôl y llyfr cyntaf Lang Toki Pona: The Language of Good, ond cyflwynodd y llyfr hwyrach Lang Toki Pona Dictionary 137 o eiriau sylfaenol. Cafodd ei hysbrydoli gan athroniaeth Tao, ymysg pethau arall.