Tooji Keshtkar
Canwr Norwyaidd, a aned yn Iran (Mai 26, 1987), yw Tooji Keshtkar, sy'n fwy adnabyddus fel Tooji. Bydd Tooji yn cynrychioli Norwy yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2012.[1]
Tooji Keshtkar | |
---|---|
Ganwyd | Touraj Keshtkar 26 Mai 1987 Shiraz |
Dinasyddiaeth | Iran, Norwy |
Galwedigaeth | cyflwynydd teledu, canwr, gweithiwr cymdeithasol, model |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd |
Mam | Lily Bandehy |
Gyrfa
golyguGaned Tooji yn Shiraz, Iran a symudodd ef i Norwy pan oedd yn un oed.[2] Dechreuodd yrfa mewn modelu pan oedd yn 16 oed a gweithiodd fel cyflwynydd ar MTV Norway yn cyflwyno "Super Saturday" a "Tooji's Top 10".[3]
Rhyddhaodd Tooji ei gân gyntaf, "Swan Song", yn 2008.
Enillodd ef y gystadleuaeth Melodi Grand Prix 2012 yn Norwy ar 11 Chwefror 2012 a bydd yn cynrychioli'r wlad yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2012 gyda'i gân "Stay".[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ http://www.vg.no/musikk/grand-prix/artikkel.php?artid=10043418
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-17. Cyrchwyd 2012-02-12.
- ↑ http://www.vg.no/nyheter/innenriks/artikkel.php?artid=510108
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-08-04. Cyrchwyd 2012-02-12.