Transmusicales
Gŵyl gerddorol a gynhelir yn ninas Rennes yn Llydaw yw'r Transmusicales. Mae'n para am dridiau ac yn denu nifer fawr o bobl i'r ddinas bob blwyddwyn. Fe'i cynhelir mewn sawl waraws enfawr ar gyrion y ddinas ger y maes awyr ac yn ogystal â'r ŵyl fawr ei hun, mae rhan fwyaf bariau a thafarndai'r ddinas hefyd yn cynnal nosweithiau cerddorol yn y canol. Ceir nifer o arddulliau cerddorol yn yr ŵyl fawr, â'r pwyslais ar gerddoriaeth ryngwladol tra bo'r bariau'n tueddu i ganolbwyntio ar grwpiau Ffrangeg eu hiaith. Ymysg y grwpiau a berfformiodd yno dros y blynyddoedd diweddar mae'r Fugees a'r Beastie Boys.
Enghraifft o'r canlynol | gŵyl gerddoriaeth, sefydliad |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1979 |
Lleoliad yr archif | municipal archive of Rennes |
Sylfaenydd | Jean-Louis Brossard |
Gwladwriaeth | Ffrainc |
Rhanbarth | Roazhon |
Gwefan | https://www.lestrans.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |