Triathlon Ironman

Mae Triathlon Ironman yn un o gyfres o rasys triathlon pellter-hir sydd wedi’u trefnu gan Gorfforaeth Triathlon y Byd. Mae’r ras yn cynnwys nofio am 2.4 milltir (3.6 cilomedr), seiclo am 112 milltir (180.25 cilomedr) a marathon 26.22 milltir (42.2 cilomder); y tri yn y drefn honno ac yn syth ar ôl ei gilydd heb doriad. Mae’n cael ei ystyried fel un o’r campau chwaraeon undydd mwyaf heriol yn y byd.[1][2][3]

Ironman Cymru, 2011

Mae’r rhan fwyaf o rasys Ironman yn gorfod cael eu cyflawni o fewn 17 awr. Mae ras fel arfer yn dechrau am 7:00a.m. Rhaid cwbhau’r nofio erbyn 9:20a.m. (2 awr 20 munud), y seiclo erbyn 5:30p.m. (8 awr 10 munud), a’r marathon erbyn hanner nos (6 awr 30 munud). Mae rhai sy’n llwyddo i gwblhau’r triathlon o fewn i’r cyfyngiadau amser hyn yn cael eu galw yn ‘Ironman’.

Mae ras Triathlon Ironman Cymru yn cael ei chynnal yn Ninbych-y-Pysgod ym mis Medi bob blwyddyn.

Mae’r enw "Triathlon Ironman" hefyd yn gysylltiedig â’r triathlon Ironman gwreiddiol, sydd bellach yn Bencampwriaeth Byd Ironman. Mae wedi’i gynnal yn Kailua-Kona, Hawaii, bob blwyddyn ers 1978 (gyda ras ychwanegol yn 1982). Cafodd ei gynnal yn Oahu yn gyntaf, cyn symud i Kailua-Kona yn 1981, ac yno mae’n dal i gael ei gynnal heddiw. Mae Pencampwriaeth Byd Ironman wedi dod yn adnabyddus am hyd a amodau heriol y ras, ac mae’r sylwebaeth deledu wedi ennill Gwobr Emmy.[4][5]

Mae rasys eraill yn bodoli sydd yr un pellter â thriathlon Ironman, ond heb eu creu, perchnogi na’u trwyddedu gan Gorfforaeth Triathlon y Byd. Mae’r rasys hynny yn cynnwys cyfres Challenge Roth[6] a Triathlon Norseman.

Cyfeiriadau golygu

  1. Hudson, Ryan. "2012 Ironman World Championship: The hardest day in sports". SB Nation. Cyrchwyd July 23, 2013.
  2. "FAQ:How do I know if I have the right stuff to do an IRONMAN?". Ironman. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-08-21. Cyrchwyd July 23, 2013.
  3. Walpole, Brian. "The making of an Ironman". Performance Sports and Fitness. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-10-07. Cyrchwyd July 23, 2013.
  4. Collings, Jennifer. "Not Your Everyday Athlete". NASA.gov. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd December 3, 2013.
  5. "Ironman wins 16th Emmy Award". Hawaii 24/7. May 4, 2012. Cyrchwyd December 3, 2013.
  6. "2012 last year for Penticton Ironman triathlon". CBC. August 24, 2012. Cyrchwyd July 2, 2013.