Trochydd gyddfgoch

rhywogaeth o adar
(Ailgyfeiriad o Trochydd Gyddfgoch)
Trochydd gyddfgoch
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Gaviiformes
Teulu: Gaviidae
Genws: Gavia
Rhywogaeth: G. stellata
Enw deuenwol
Gavia stellata
(Pontopiddan, 1763)

Y Trochydd gyddfgoch yw'r lleiaf o deulu'r Trochwyr, tua 55–67 cm o hyd a 91–110 cm ar draws yr adenydd.

Mae'n nythu ar draws gogledd Ewrop, gogledd Asia a rhan ogleddol Canada ac Alaska. Fel rheol mae'n tueddu i nythu ar lynnau llai na'r trochwyr eraill, ac yn y tymor nythu mae ei alwadau annaearol yn nodwedd o'r ardaloedd lle mae'n magu. Yn y gaeaf mae'n symud tua'r de a gellir eu gweld ar yr arfordir neu ar lynnoedd mawr.

Mae'r llun yn dangos Trochydd Gyddfoch yn ei blu haf, gyda gwddw coch, pen llwyd, cefn tywyll ac yn wyn oddi tano. Yn y gaeaf mae'n wyn ar y gwddw a llawer llai o liw arno. Gellir ei wahaniaethu oddi wrth y trochyddion eraill trwy fod y pig yn deneuach ac yn pwyntio ar i fyny rhyw fymryn, a bod y gwyn ar y gwddw yn ymestyn ymhellach i'r ochrau.

Ar bysgod y mae'r Trochydd Gyddfgoch yn byw, ac mae'n medru plymio hyd at 8 medr o ddyfnder i'w dal. Hwn yw'r unig drochydd sy'n medru codi i'r awyr yn uniongyrchol o'r tir; mae'n rhaid i'r lleill redeg ar hyd y dŵr.

Nid yw'r Trochydd Gyddfgoch yn nythu yng Nghymru ond mae'n aderyn pur gyffredin ar yr arfordir yn ystod y gaeaf; y mwyaf cyffredin o'r trochyddion fel rheol. Mae rhai cannoedd yn gaeafu yn Mae Ceredigion a chryn nifer hefyd o gwmpas rhan ddwyreiniol Afon Menai.

Aelodau eraill y teulu golygu

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Trochydd gyddfddu Gavia arctica
 
Trochydd gyddfgoch Gavia stellata
 
Trochydd mawr Gavia immer
 
Trochydd pigwyn Gavia adamsii
 
Trochydd y Môr Tawel Gavia pacifica
 
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.
 
Gavia stellata