Troelus a Chresyd

Drama Gymraeg gan awdur anhysbys a gyfansoddwyd tua throad yr 17g yw Troelus a Chresyd. Dyma'r enghraifft gynharaf o destun drama cyfan yn y Gymraeg sydd wedi goroesi (ceir rhannau o ddwy ddrama firagol gynharach, o ddiwedd yr Oesoedd Canol, yn y llawysgrifau).

Troelus a Chresyd
Enghraifft o'r canlynoldrama Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Darlun print bloc o'r Almaen sy'n portreadu Diomede a Chresyd, efallai (cyfnod y Dadeni)
Troelus a Chresyd, gol. W. Beynon Davies (Gwasg Prifysgol Cymru,1976)

Trosiad i'r Gymraeg ar ffurf ddrama fydryddol sy'n dilyn dau destun cynharach, sef y gerdd Saesneg Canol Troylus and Cryseyde gan Chaucer a'r gerdd Sgoteg The Testament of Cresseid gan yr Albanwr Robert Henryson ydyw.

Trasiedi ydyw, sy'n adrodd hanes serch Troelus am Cresyd (Cressida) yn amser Rhyfel Caerdroea.

Mae ymadroddion llafar y ddrama yn awgrymu mai person o ardal Sir Ddinbych oedd yr awdur, ond ni wyddom dim amdano/amdani. Cred y rhan fwyaf o ysgolheigion ei bod yn perthyn i ddegawdau cyntaf yr 17g.

Cafodd y ddrama ei pherfformio am y tro cyntaf (a chaniatau na fu perfformiad yn oes yr awdur) yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ystradgynlais 1954.

Llyfryddiaeth golygu

  • W. Beynon Davies (gol.), Troelus a Chresyd (1976). Y testun gwreiddiol.
  • Gwyn Williams, Troelus a Chresyd (1976). Diweddariad.

Gweler hefyd golygu