Moment

(Ailgyfeiriad o Trorym)

Gair y ffisegydd am foment neu foment o rym ydy trorym (Saesneg: torque) sef tueddiad grym i droi gwrthrych o gwmpas echel, ffwlcrwm neu golyn. Gair y peiriannydd mecanyddol ydy "moment", sy'n ein hatgoffa o air tebyg mwy cyffredin sef "momentwm" er bod hwnnw'n gysyniad cwbl wahanol. Caiff ei feur gan yr uned SI rhyngwladol newton-metr (symbol: N m).

Os medrwn ddisgrifio amlygiad grym fel tynnu neu wthio yna medrwn ddisgrifio moment fel dirdroi, troad sgriw neu gylchdroi. Pan ydym yn tynhau neu'n llacio bollt efo sbaner rydym yn defnyddio moment. Gan fod dau enw, ceir hefyd dau symbol. Y symbol am trorym ydy'r llythyren Roegaidd τ, a'r symbol am "moment" ydy M. Yn America, dim ond y gair torque a ddefnyddir.

Mae'r grym a roddir ar lifer, wedi ei luosi gan y pellter o golyn y lifer yn cael ei ddisgrifio fel moment.

Fe'i cynrychiolir gyda symbolau fel: