Trunki
Brand o fagiau llaw i blant yw Trunki. Mae'n gês caled ac mae ganddo strap ac olwynion, sy'n golygu y gall plant naill ai ei dynnu eu hunain neu eistedd arno a chael eu tynnu o un lle i'r llall. Cafodd y Trunki ei gynllunio gan Rob Law a daeth yn adnabyddus ar ôl ymddangos ar gyfres deledu Dragons' Den yn 2006.
Mae Trunki wedi ennill dros gant o wobrau cynnyrch a dylunio, gan gynnwys nifer gan Design Week , Progressive Preschool, Mother and Baby Magazine, D & AD, y manwerthwr i blant Right Start, y cylchgrawn Practical Parenting a'r sianel deledu Nick Jr.
Ffurfiwyd Magmatic, y cwmni sy'n cynhyrchu'r Trunki, ar 5 Mai 2006.
Daeth y dyfeisiwr Rob Law i sylw'r cyhoedd yn 2006 yn dilyn ymddangosiad ar raglen Dragons' Den ar BBC2. Yn y rhaglen honno, tynnodd y panelwr, Theo Paphitis, y Trunki a thorri'r strap. Yna gwnaeth Richard Farleigh gynnig o £100,000 ar gyfer 50% o'r cwmni, cynnig a wrthodwyd gan Law.
Dathlodd Trunki ei 10fed pen-blwydd yn 2016 - mae Magmaic wedi gwerthu dros 3,000,000 o gesys dillad Trunki, mewn dros 100 o wledydd ledled y byd, trwy fanwerthwyr sy'n cynnwys John Lewis, Argos, Harrod's, Tesco a Next ers mis Mai 2006.